- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
16 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Mai 2008
Yn dod i rym
13 Mehefin 2008
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 13 Mehefin 2008.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008(3).
4. Diwygir Rheoliadau 2008 fel a ganlyn.
5. Yn rheoliad 18(3), yn lle'r ffigur “25,580”, rhodder y ffigur “27,115”.
6. Yn lle paragraffau 8(1)(b) ac 8(1)(c) o Atodlen 2 rhodder—
“(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig i arfer hawl i breswylio;
(c)sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol;”.
7. Ym mharagraff 4(2)(a) o Atodlen 3 hepgorer y geiriau “a delir gan y myfyriwr” ac “y myfyriwr”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”).
Mae Rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2008 er mwyn cynyddu'r grantiau ar gyfer ffioedd sy'n daladwy i fyfyrwyr sy'n mynychu Canolfan Bologna o 25,580 ewro i 27,115 ewro.
Mae Rheoliad 6 yn diwygio paragraffau 8(1)(b) ac 8(1)(c) o Atodlen 2 o Reoliadau 2008 er mwyn galluogi myfyrwyr sydd wedi ymsefydlu yn y DU ac sy'n arfer hawl i breswylio yn yr UE ac yna'n dychwelyd i'r DU i astudio i fod yn gymwys i gael y cymorth ariannol i fyfyrwyr yn llawn o dan y Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 7 yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 3 o Reoliadau 2008 o ran cyfrifo incwm gweddilliol rhiant myfyriwr.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: