(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, ac sy'n diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (OS 1995/3187 fel y'i diwygiwyd) (“y Rheoliadau Ychwanegion”) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu—

a

Cyfarwyddeb 2006/52/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion a Chyfarwyddeb 94/35/EC ar felysyddion sydd i'w defnyddio mewn bwydydd (OJ Rhif L204, 26.7.2006, t. 10), fel y cywirwyd Cyfarwyddeb 2006/52/EC gan Gorigendwm (OJ Rhif L78, 17.3.2007, t. 32); a

b

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/129/EC sy'n diwygio a chywiro Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n gosod meini prawf penodol ynghylch purdeb ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau neu felysyddion (OJ Rhif L346, 9.12.2006, t. 15).

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio hefyd Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (OS 1995/3123 fel y'u diwygiwyd) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu Cyfarwyddeb 2006/52/EC a grybwyllwyd uchod a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/128/EC sy'n diwygio ac yn cywiro Cyfarwyddeb 95/31/EC sy'n gosod meini prawf penodol o ran purdeb ynghylch melysyddion sydd i'w defnyddio mewn bwydydd.

3

Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Ychwanegion drwy—

a

diwygio diffiniadau penodol a ddefnyddir yn y Rheoliadau Ychwanegion, gan gynnwys diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y GE a ddiwygiwyd yn ddiweddar (rheoliad 3);

b

gwneud darpariaeth drosiannol i ganiatáu marchnata ychwanegion bwyd neu fwyd a roddwyd ar y farchnad neu a labelwyd cyn 15 Awst 2008 os byddai'r marchnata hwnnw wedi bod yn gyfreithlon o dan y Rheoliadau Ychwanegion cyn iddynt gael eu diwygio gan y Rheoliadau hyn (rheoliad 4);

c

pennu ychwanegion penodol na chaniateir eu defnyddio i weithgynhyrchu cwpanau jeli (rheoliad 5(a));

ch

ychwanegu sylwedd newydd at yr ychwanegion a ganiateir ac a restrir yn Atodlen 1, sy'n ymwneud ag ychwanegion amrywiol a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlenni 6, 7 nac 8 (rheoliad 5(b));

d

newid terfynau penodol, tynnu sylweddau penodol o'r tabl o gadwolion a gwrthocsidyddion a ganiateir yn amodol yn Rhan A o Atodlen 2 ac ychwanegu sylweddau eraill at y rhestr honno (rheoliad 6);

dd

diwygio'r cofnodion ynglŷn â chramenogion a seffalopodau, diwygio'r cyfeiriadau at fwydydd i fabanod a phlant bach ac ychwanegu dau gofnod newydd at Ran B o Atodlen 2, sy'n ymdrin â sylffwr diocsid a sylffidau (rheoliad 7);

e

rhoi Rhan C newydd yn lle'r hen Ran C o Atodlen 2 sy'n ymwneud â photasiwm nitraid a nitrad a sodiwm nitraid a nitrad (rheoliad 8 ac Atodlen 1);

f

rhoi Rhan D newydd yn lle'r hen Ran D o Atodlen 2 sy'n ymwneud â defnyddio gwrthocsidyddion penodol (rheoliad 9 ac Atodlen 2);

ff

ychwanegu sylweddau penodol a diwygio'r amodau defnydd ar gyfer rhai sylweddau a ganiateir eisoes yn Atodlen 3, sy'n ymwneud ag ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir, ac sy'n diwygio ymadroddion penodol sydd wedi'u diffinio ac a ddefnyddir yn yr Atodlen honno (rheoliad 10);

g

ychwanegu dau sylwedd a diwygio'r amodau defnydd ar gyfer un a ganiateir eisoes yn Atodlen 4 sy'n ymwneud â chariwyr a thoddyddion cariwyr a ganiateir (rheoliad 11);

ng

diwygio Atodlen 7, ynghylch bwydydd y caniateir defnyddio nifer cyfyngedig o ychwanegion ynddynt, drwy ychwanegu bwydydd penodol ac ychwanegu un ychwanegyn at y rhai a ganiateir mewn un bwyd neilltuol (rheoliad 12); ac

h

diwygio ymadrodd a ddiffiniwyd ar gyfer dosbarth bwydydd lle mae'n ymddangos yn Atodlen 8, sy'n ymwneud ag ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach, ac ychwanegu sylwedd a ganiateir at yr Atodlen honno (rheoliad 13).

4

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Melysyddion Mewn Bwyd 1995 drwy—

a

diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y GE a ddiwygiwyd yn ddiweddar (rheoliad 14(2)); a

b

ychwanegu sylwedd at Atodlen 1, sy'n ymwneud â melysyddion a ganiateir a'r bwydydd y caniateir eu defnyddio ynddynt neu arnynt (rheoliad 14(3)).

5

Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.