Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 199513
Yn Atodlen 8 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach)—
a
ym mharagraffau 1, 1A ac 1B o'r nodiadau rhagarweiniol, yn lle'r ymadrodd “weaning foods”, rhodder bob tro yr ymadrodd “processed cereal-based foods and baby foods”;
b
yn Rhan 3 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd diddyfnu i fabanod a phlant bach y mae eu hiechyd yn dda),
i
hepgor y cofnod ynghylch E 473; a
ii
yn y man lle mae'n ymddangos yn y teitl ac yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 170 i E 526, E 500 i E 503, E 338, E 410 i E 440, E 1404 i E 1450, ac E 1451, yn lle'r ymadrodd “weaning foods”, rhodder “processed cereal-based foods and baby foods”.
c
yn Rhan 4 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd deietegol i fabanod a phlant bach at ddibenion meddygol arbennig fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 1999/21/EC), ar ôl y cofnod ynghylch E 472c mewnosoder y cofnod canlynol—
E 473
Sucrose esters of fatty acids
Products containing hydrolysed proteins, peptides and amino acids
120 mg/l