Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 ac yn ddarostyngedig i erthyglau 4(1), 5(1), 6(1), 7(1), 8(1), 9(1), 10(1), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1) a 15(1) a (2) isod, daw i rym ar 1 Awst 2008.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.