Addysg gorfforol

13.—(1Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen addysg gorfforol i rym ar—

(a)1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;

(b)1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol, yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol ac ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

(c)1 Awst 2010 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.

(2Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen addysg gorfforol yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran addysg gorfforol.

(3Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen addysg gorfforol (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.