Gwyddoniaeth14

1

Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen wyddoniaeth i rym ar—

a

1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol, yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol ac yn y pedwerydd cyfnod allweddol; a

b

1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.

2

Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen wyddoniaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran gwyddoniaeth.

3

Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen wyddoniaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.