Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1480 (Cy.153)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

9 Mehefin 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mehefin 2008

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2008

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2008.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2008.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(2); a

(b)ystyr “y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Support Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(3).

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Addasu'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau

2.—(1Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987) wedi'i diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Nhabl A, yn lle'r addasiad i reoliad 45 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Terfyn Cyfalaf), rhodder—

Yn lle'r rheoliad hwn rhodder—

Capital Limit

45  For the purposes of regulations 5(2)(e) and 6(1)(a) of the National Health Service (Travelling Expenses and Remission of Charges) (Wales) Regulations 2007 the capital limit is—

(a)for a claimant permanently residing in accommodation as defined in regulation 19A– £22,000;

(b)in any other case–£16,000...

(3Yn Nhabl A, yn yr addasiad i reoliad 53 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, yn lle “(a) until 8 April 2007 £16,000; (b) from 9 April 2007 £17,250” rhodder “£19,000”.

(4Yn Nhabl A, yn yr addasiadau i reoliad 66A o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (trin benthyciadau i fyfyrwyr), yn lle'r cofnod cyntaf, rhodder—

Yn lle paragraff (1), rhodder—

(1) A student loan must be treated as income unless it is—

(a)a hardship loan; or

(b)an additional loan, as described in the Guide to Student Support issued by the Student Awards Agency for Scotland 2007-2008(4), paid pursuant to an application for a loan under regulation 5(1) or (9) of the Education (Student Loans) (Scotland) Regulations 2007 (applications for loans)(5),

in which case it will be disregarded...

(5Yn Nhabl A, yn yr addasiadau i Atodlen 9 i'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm heblaw enillion) yn lle'r cofnod cyntaf rhodder—

Ym mharagraff 15(1) yn lle “sub-paragraph (3)” rhodder “sub-paragraphs (1A), (1B) and (3)”.

Mewnosoder ar ôl paragraff 15(1)—

(1A) In respect of a voluntary payment made to a student, sub-paragraph (1) will only apply to £20 of that payment.

(1B) The total amount disregarded in respect of voluntary payments to a student under sub-paragraph (1) may not exceed £20 per week.

(1C) In sub-paragraphs (1A) and (1B) “student” has the meaning given in regulation 61(1)...

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Mehefin 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”).

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a thalu treuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (“y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu Atodlen 1 i'r prif Reoliadau yn y dulliau a ganlyn:

1.  Maent yn darparu y bydd unrhyw fenthyciad ychwanegol, y nodir y cymhwystra ar ei gyfer yn y “Student Support in Scotland Guide” a gyhoeddir gan Asiantaeth Dyfarndaliadau Myfyrwyr yr Alban ac a delir o dan Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2007, yn cael ei ddiystyru wrth gyfrifo incwm benthyciad i fyfyriwr. (Rheoliad 2(4)).

2.  Maent yn darparu mai dim ond £20 o daliad gwirfoddol a wneir i fyfyriwr sydd i'w ddiystyru wrth gyfrifo incwm y myfyriwr hwnnw. Uchafswm y taliadau gwirfoddol i fyfyriwr y gellir ei ddiystyru yw £20 yr wythnos (Rheoliad 2(5). Mae'r prif Reoliadau eisoes yn addasu ystyr “taliad gwirfoddol” er mwyn eithrio taliadau penodol a wneir i fyfyrwyr (gweler y cofnod yn rheoliad 65 yn Nhabl A yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau).

3.  Maent yn gosod cofnod newydd yn lle'r addasiad o reoliad 45 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (terfyn cyfalaf) (Rheoliad 2(2)) ac yn diwygio'r cofnod ar gyfer addasu rheoliad 53 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm er mwyn cynyddu'r terfyn cyfalaf isaf, a ddefnyddir, mewn achosion rhagnodedig, ar gyfer cyfrifo hawlogaeth i dderbyn budd-daliadau o dan Gynllun Incwm Isel y GIG (Rheoliad 2(3)).

(1)

2006 p.42. Gweler adran 206(1) i gael y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(4)

Mae'r Canllawiau ar gael ar wefan Asiantaeth Dyfarndaliadau Myfyrwyr yr Alban yn http://www.saas.gov.uk