YR ATODLENBuddiannau ariannol a gwrthdrawiadau penodedig eraill o ran buddiant

Penodi staff

4.  Pan fo person perthnasol sy'n cael ei gyflogi i weithio mewn ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw penodi olynydd i'r person hwnnw, rhaid iddo ymneilltuo o'r cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater o dan sylw a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r mater hwnnw.