RHAN 2Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Y safonau gofynnol ar gyfer terfynau ymfudiad cyflawn

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae deunydd neu eitem plastig yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd y gall ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol a bennir ym mharagraff (2) i (4).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig sy'n —

(a)eitem sy'n gynhwysydd neu'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 mililitr neu fwy na 10 o litrau, neu

(b)dalen, ffilm neu unrhyw ddeunydd neu eitem arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu y mae'n anymarferol amcangyfrif ar ei chyfer neu ei gyfer y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw,

y terfyn priodol yw terfyn ymfudiad cyflawn o 10 o filigramau y decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig.

(3Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig arall, y terfyn priodol yw terfyn ymfudiad cyflawn o 60 o filigramau o'r cyfansoddion yn cael eu rhyddhau fesul cilogram o fwyd neu o efelychyn bwyd.

(4O ran deunyddiau neu eitemau plastig y bwriedir eu dwyn i gyffyrddiad neu sydd eisoes mewn cyffyrddiad â bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant bach, y terfyn priodol bob amser yw'r terfyn a bennir ym mharagraff (3).

(5At ddibenion y rheoliad hwn ni fernir bod deunydd neu eitem plastig yn methu â bodloni'r safon ofynnol o dan baragraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd—

(a)sydd wedi ei bennu yn y tabl yn Rhan 4 o Atodlen 3; a

(b)pan na fo “X” wedi ei gosod yn unman yn y grŵp o golofnau dan y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” gyferbyn â'r bwyd hwnnw.

(6Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio â'r rheoliad hwn, mae'r amddiffyniadau sydd ar gael ym mharagraff 10(2) o Atodlen 2 ar gael fel a bennir yn y paragraff hwnnw.