Y cyfnod sylfaen2

1

Y cyfnod sylfaen o ran disgybl yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r amser perthnasol (fel y'i diffinnir ym mharagraff (2)) ac sy'n diweddu ar yr un amser â'r flwyddyn ysgol y bydd mwyafrif y disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd saith oed ynddi.

2

Ym mharagraff (1) ystyr “yr amser perthnasol” (“the relevant time”) yw—

a

yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir cyn iddo gyrraedd tair oed, ei drydydd pen-blwydd;

b

yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir ar ôl iddo gyrraedd yr oedran hwnnw, yr amser pan ddarperir yr addysg honno iddo gyntaf; ac

c

yn achos plentyn na ddarperir iddo unrhyw addysg feithrin a ariennir, yr amser pan fydd yn cael gyntaf addysg gynradd nad yw'n addysg feithrin.