- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Rhaid i dag clust —
(a)bod yn hawdd ei ddarllen drwy gydol oes y mochyn;
(b)bod wedi ei wneud naill ai o fetal neu o blastig neu o gyfuniad o fetal a phlastig;
(c)bod yn amhosibl ymhél ag ef;
(ch)bod yn amhosibl ei ailddefnyddio;
(d)gallu gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi ei hargraffu neu ei stampio arno;
(dd)fod wedi ei ddylunio i barhau i fod ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo.
(2) Rhaid rhoi tatŵ naill ai gan ddefnyddio gefel tatwio, ac yn yr achos hwn rhaid iddo fod ar glust, neu gan ddefnyddio offer slapfarcio, ac yn yr achos hwn rhaid ei roi ar ddwy ysgwydd y mochyn.
(3) Caiff ceidwad farcio mochyn ag unrhyw wybodaeth arall, neu ychwanegu gwybodaeth arall ar y tag clust neu at y tatŵ a ddarperir ar yr amod y gellir gwahaniaethu'n glir rhwng yr wybodaeth ychwanegol a'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn.
7.—(1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad oni bai bod ganddo—
(a)tag clust ac arno'r llythrennau “UK” ac, yn eu dilyn, y marc cenfaint ar gyfer y daliad y symudir y mochyn ohono; neu
(b)tatŵ yn dangos y marc cenfaint hwnnw (ynghyd â'r llythrennau “UK” neu hebddynt).
(2) Yn achos marchnad—
(a)caniateir symud y mochyn oddi yno os yw wedi ei farcio â'r marc cenfaint ar gyfer y daliad y daeth ohono i gyrraedd y farchnad;
(b)os nad yw wedi ei farcio'n gywir pan fydd yn cyrraedd y farchnad, caiff ceidwad gywiro'r marciau adnabod er mwyn marcio'r mochyn â marc y daliad y daeth ohono i gyrraedd y farchnad, ond os na fydd y ceidwad yn gwneud hynny ni chaniateir ond ei ddychwelyd i'r daliad y daeth ohono.
8.—(1) Nid yw erthygl 7 yn gymwys mewn perthynas â mochyn nad yw eto'n flwydd oed ar yr amod ei fod wedi ei farcio â marc dros dro sydd—
(a)naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sy'n mynd gyda'r mochyn pan gaiff ei symud, yn galluogi'r daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf i gael ei adnabod; a
(b)yn para hyd oni fydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan.
(2) Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn a symudir—
(a)i farchnad;
(b)i ladd-dy;
(c)at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned; neu
(ch)i sioe, etc. yn unol ag erthygl 10.
9. Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned onid oes ganddo dag clust neu datŵ sy'n dwyn y llythrennau “UK” ac, yn eu dilyn, farc cenfaint a rhif adnabod unigol unigryw.
10. Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad —
(a)i sioe neu arddangosfa; neu
(b)at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y cafodd ei symud ohono,
onid yw wedi ei farcio'n unol ag erthygl 7 ac, at hynny, wedi ei farcio â marc adnabod sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw.
11.—(1) Rhaid i berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd atodi tag clust i'r mochyn neu roi arno datŵ a rhaid i'r tag clust ar tatŵ gynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn a ganlyn—
(a)y llythrennau “UK”;
(b)y marc cenfaint ar gyfer y genfaint y daw'r mochyn a allforiwyd i berthyn iddi;
(c)unrhyw wybodaeth arall, os bydd y ceidwad yn dymuno cynnwys y cyfryw wybodaeth; ac
(ch)y llythyren “F”.
(2) Rhaid atodi'r tag clust i'r mochyn neu roi arno'r tatŵ o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl iddo gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag, cyn iddo gael ei symud o'r daliad hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: