xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1787 (Cy.173)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

5 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

1 Awst 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(3)(a) a (b), (5) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) ac ar ôl gwneud y trefniadau hynny ar gyfer ymgynghori y maent o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y gorchymyn canlynol:

1.—(1— Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2008 a daw i rym ar 1 Awst 2008.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

2.—(1— Yn nhestun Cymraeg Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008(3) yn—

(a)erthyglau 4(2), 5(2), 6(2), 7(2), 8(2), 9(2), 10(2), 11(2), 12(2), 13(2), 14(2) a 15(3) yn lle “Y darpariaethau” rhodder “Mae'r darpariaethau”; a

(b)erthyglau 4(3), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(3), 10(3), 11(3), 12(3), 13(3), 14(3) a 15(4) yn lle “egluro'r” rhodder “dangos y”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Gorffennaf 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) yn rhoi effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio sy'n gosod yr hyn y dylid ei ddysgu i blant a thargedau cyrhaeddiad ar eu cyfer mewn perthynas â disgyblion yng nghyfnodau allweddol 2 i 4. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2008 er mwyn gwneud cywiriadau i'r testun Cymraeg.

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).