RHAN 4CYMORTH ARIANNOL
PENNOD 1GRANTIAU AT FFIOEDD I FYFYRWYR CANOLFAN BOLOGNA
Grant at ffioedd18
1
Mae myfyriwr Canolfan Bologna yn cymhwyso i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw swm agregedig y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall yn gysylltiedig â bod yn bresennol arno.
3
Er gwaethaf paragraff (2), nid yw'r grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i fod yn fwy na 25,580 ewro.