- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
17.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw—
(a)bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Ganolfan Bologna (“myfyriwr Canolfan Bologna”) yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw yn unol â darpariaethau Pennod 1;
(b)bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Goleg Ewrop (“myfyriwr Coleg Ewrop”) yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw i gael—
(i)grant at ffioedd a grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 2; a
(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4; ac
(c)bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Athrofa Prifysgol Ewrop (“myfyriwr Athrofa Prifysgol Ewrop”) yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—
(i)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 3; a
(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4.
(2) Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu—
(a)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael math neu swm penodol o gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu
(b)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael unrhyw gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.
(3) Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: