RHAN 2GWNEUD CAIS AM GYMORTH A CHYMHWYSTRA

Ceisiadau

9.—(1Onid yw person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo gyflwyno cais am gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys a chais am gymorth ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru i'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

(2Pan fo person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 10(10), rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ei fod yn dymuno gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(3Y dyddiad cau o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 yw—

(a)28 Chwefror 2008, yn achos Canolfan Bologna;

(b)28 Chwefror 2008, yn achos Coleg Ewrop; ac

(c)28 Chwefror 2008, yn achos yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

(4Caiff Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau os ydynt o'r farn bod amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau hynny.