- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 33
1.—(1) Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau Rhan 2 o'r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifo mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy'n gymwys iddo;
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n union o flaen y flwyddyn berthnasol;
ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn cysylltiad â hi;
mae i “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2;
ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr), paragraff 4 (yn achos rhiant myfyriwr Coleg Ewrop), paragraff 5 (yn achos partner myfyriwr) a pharagraff 6 (yn achos partner rhiant myfyriwr Coleg Ewrop);
ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â pharagraff 3, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth ar ei chyfer ac, mewn perthynas â pharagraff 4, (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi'i gyfrifo fel pe bai at ddibenion—
y Deddfau Treth Incwm;
deddfwriaeth treth incwm un o Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir sy'n gymwys i incwm y person;
os yw deddfwriaeth mwy nag un o Aelod-wladwriaethau'r AEE neu o un o Aelod-wladwriaethau'r AEE a'r Swistir yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4);
mae i “incwm yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
ystyr “myfyriwr” (“student”) yw myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn ôl y digwydd;
mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (2);
ystyr “myfyriwr newydd” (“new student”) yw myfyriwr Coleg Ewrop sy'n cychwyn ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;
ystyr “myfyriwr presennol” (“existing student”) yw myfyriwr Coleg Ewrop nad yw'n fyfyriwr newydd;
ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr Coleg Ewrop sy'n rhiant i fyfyriwr Coleg Ewrop;
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr yw unrhyw un o'r canlynol —
priod y myfyriwr;
partner sifil y myfyriwr;
person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr fel pe bai'n briod â'r myfyriwr os yw'r myfyriwr yn dod o fewn is-baragraff (2)(a) a'i fod yn cychwyn ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr os yw'r myfyriwr yn dod o fewn is-baragraff (2)(a) a'i fod yn cychwyn ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr Coleg Ewrop yw unrhyw un o'r canlynol ac eithrio rhiant arall i'r myfyriwr Coleg Ewrop—
priod rhiant y myfyriwr Coleg Ewrop;
partner sifil rhiant y myfyriwr Coleg Ewrop;
person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y myfyriwr Coleg Ewrop fel pe bai'n briod â'r rhiant;
person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y myfyriwr Coleg Ewrop fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;
ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu riant mabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny.
(2) ystyr “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yw myfyriwr Coleg Ewrop—
(a)os yw'n 25 mlwydd oed neu'n hyn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(b)os yw'n briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal i fod ai peidio;
(c)os nad oes ganddo riant sy'n dal yn fyw;
(ch)os bydd Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na ellir dod o hyd i'r naill na'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol i ddod i gysylltiad â'r naill neu'r llall;
(d)os nad yw wedi cysylltu â'r naill na'r llall o'i rieni am y cyfnod o un flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu, ym marn Gweinidogion Cymru, os yw'n gallu dangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;
(dd)os oes llety wedi'i ddarparu ar ei gyfer gan unrhyw berson cyfreithiol nad yw'n rhiant i'r myfyriwr, neu os yw wedi bod, yn unol â gorchymyn gan lys cymwys, o dan warchodaeth neu ofal unrhyw berson cyfreithiol nad yw'n rhiant i'r myfyriwr, a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis sy'n diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y daw'n 16 oed a chyn diwrnod cyntaf ei gwrs (“y cyfnod perthnasol”) (ar yr amod nad yw mewn gwirionedd wedi bod o dan awdurdod neu reolaeth ei rieni ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol);
(e)os yw ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni naill ai—
(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn rhoi'r rhieni hynny mewn perygl; neu
(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny, o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 7, anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig;
(f)os yw paragraff 4(9) yn gymwys a bod y rhiant mwyaf priodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oes gan y rhiant o dan sylw bartner ai peidio);
(ff)os yw'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio mewn ty sy'n perthyn i'r urdd honno;
(g)os bod ganddo, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol, ofal am berson o dan 18 mlwydd oed; neu
(ng)os yw wedi ei gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau yn diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod agregiad y cyfnodau hynny heb fod yn llai na thair blynedd, a'i fod at ddibenion y paragraff hwn i'w drin fel pe bai'n cynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—
(i)pan oedd yn cyfranogi o drefniadau ar gyfer hyfforddiant i'r di-waith o dan unrhyw gynllun a gâi ei weithredu, ei noddi neu ei gyllido gan unrhyw awdurdod neu asiantaeth yn perthyn i'r wladwriaeth, p'un ai awdurdod neu asiantaeth genedlaethol, ranbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”) ydoedd;
(ii)pan oedd yn derbyn budd-dal a oedd yn daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;
(iii)pan oedd ar gael i'w gyflogi a phan fu iddo gydymffurfio ag unrhyw ofyniad cofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel amod o hawlogaeth ar gyfer cyfranogi o drefniadau ar gyfer hyfforddiant neu ar gyfer derbyn budd-daliadau;
(iv)pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad cyfatebol arall; neu
(v)pan oedd yn derbyn unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delid gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd gwelyfod, anaf neu salwch.
(3) Mae unrhyw fyfyriwr Coleg Ewrop sy'n cymhwyso i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan is-baragraff (2)(g) mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.
2.—(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr Coleg Ewrop neu fyfyriwr Athrofa Prifysgol Ewrop yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
(2) Incwm yr aelwyd—
(a)yn achos myfyriwr Coleg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, yw agregiad o incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys ac incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr Coleg Ewrop (yn ddarostyngedig i baragraff 4(9)) ac—
(i)yn achos myfyriwr newydd a gychwynnodd ar y cwrs cyn 1 Medi 2005, yw incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ac eithrio person sy'n byw fel arfer gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant) ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9); neu
(ii)yn achos myfyriwr newydd a gychwynnodd ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, yw incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9));
(b)yn achos—
(i)myfyriwr cymwys annibynnol a chanddo bartner, neu
(ii)myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd a chanddo bartner,
yw agregiad o incwm gweddilliol y myfyriwr ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)); neu
(c)yn achos—
(i)myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, neu
(ii)myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd nad oes ganddo bartner,
yw incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.
(3) Wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd o dan is—baragraff (2), mae swm o £1,100 i'w ddidynnu—
(a)yn achos myfyriwr Coleg Ewrop—
(i)am bob plentyn sy'n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu ar ei bartner; neu
(ii)am bob plentyn ac eithrio'r myfyriwr Coleg Ewrop sy'n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr Coleg Ewrop neu ar bartner rhiant y myfyriwr y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth; a
(b)yn achos myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, am bob plentyn sy'n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu ar ei bartner.
(4) At ddiben cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn cysylltiad â myfyriwr sy'n rhiant, nid yw incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant i'w agregu o dan is-baragraff (2)(b) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn neu blentyn ei bartner ddyfarndal y cyfrifir incwm yr aelwyd mewn cysylltiad ag ef drwy gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.
3.—(1) Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol myfyriwr, didynnir o'i incwm trethadwy (onid yw eisoes wedi'i ddidynnu wrth ganfod beth yw ei incwm trethadwy) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—
(a)unrhyw gydnabyddiaeth am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o gwrs y myfyriwr, ar yr amod nad yw'r gydnabyddiaeth honno'n cynnwys unrhyw symiau a delir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fo ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan fo wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;
(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(1) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(2), neu pan fo incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddiben deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.
(2) Pan fo'r myfyriwr yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwn at ddiben y paragraff hwn—
(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, yw swm y sterling a gaiff y myfyriwr felly; neu
(b)fel arall, yw gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd ar gyfer y mis y daw i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(3).
4.—(1) At ddibenion canfod beth yw incwm trethadwy rhiant myfyriwr, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu esemptiadau a ganiateir—
(a)ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os cyfrifir yr incwm at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, ar ffurf swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;
(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na chaiff taliadau, a fyddent fel arall, o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, yn rhan o incwm person, eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu
(c)o dan is-baragraff (2)
i'w gwneud na'u caniatáu.
(2) Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol rhiant, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—
(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os cyfrifir incwm y myfyriwr at ddiben deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;
(b)mewn unrhyw achos lle y cyfrifir incwm yn unol ag is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n gyfwerth â'r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly i fod yn fwy na'r didyniadau a wneid os byddai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac
(c)yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,075.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“blwyddyn ariannol gyfredol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o beidio â bod, ac yn debygol o barhau i beidio â bod ar ôl y flwyddyn honno, yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad ynddi drwy gymryd fel incwm gweddilliol y rhiant gyfartaledd ei incwm gweddilliol ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n dod oddi mewn iddynt.
(5) Os yw rhiant y myfyriwr yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes y mae'n ei rhedeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o'r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy'n gysylltiedig â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.
(6) Os yw rhiant myfyriwr yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n rhan o incwm y rhiant hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir dim ond oherwydd—
(a)nad yw'r rhiant yn preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir ei incwm fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n preswylio felly, yn preswylio fel arfer felly, neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir;
(b)nad yw'r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir incwm y rhiant at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n deillio yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir; neu
(c)bod yr incwm yn deillio o swyddfa, o wasanaeth neu o gyflogaeth, a bod incwm o'r rhain yn esempt o dreth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae ei incwm trethadwy at ddiben yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, yn ôl y digwydd.
(7) Os yw incwm rhiant y myfyriwr yn cael ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu'r Swistir ac incwm rhiant y myfyriwr at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn dod oddi mewn iddo, sef y gyfradd fel y'i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(8) Os bydd un o rieni'r myfyriwr yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth neu y byddai'n cael ei gymryd i ystyriaeth at ddiben canfod incwm yr aelwyd, yna—
(a)os bydd y rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w ganfod drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi; neu
(b)os bydd y rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, ystyrir mai agregiad o'r canlynol yw incwm yr aelwyd—
(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a
(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl marw'r rhiant arall.
(9) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y rhieni wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w ganfod drwy gyfeirio at incwm pa riant bynnag sydd fwyaf priodol o dan yr amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru.
(10) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at agregiad o'r canlynol—
(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y rhieni wedi gwahanu; a
(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir fel arall mewn cysylltiad â gweddill y flwyddyn berthnasol.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a heblaw am is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 4, mae incwm partner myfyriwr i'w ganfod yn unol â pharagraff 4, ac mae cyfeiriad at y rhiant i'w ddehongli fel cyfeiriadau at bartner y myfyriwr.
(2) Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir i ystyriaeth incwm y partner wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd.
(3) Pan fydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm y partner drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu gan bum-deg dau a'i luosi gan nifer yr wythnosau llawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru'n penderfynu mewn cysylltiad â hwy fod y myfyriwr a'i bartner heb fod ar wahân.
(4) Os oes gan fyfyriwr fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un ohonynt.
6. Mae incwm partner rhiant myfyriwr newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 2(2)(a) i'w ganfod yn unol â pharagraff 5, ac mae cyfeiriadau at bartner y myfyriwr i'w dehongli fel cyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr newydd, ac mae cyfeiriadau at y myfyriwr i'w dehongli fel cyfeiriadau at riant y myfyriwr.
7.—(1) Mae cyfraniad myfyriwr i'w gyfrifo yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mewn perthynas â myfyriwr Coleg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, myfyriwr Coleg Ewrop sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol a chanddo bartner a myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd a chanddo bartner, y cyfraniad yw—
(a)os £23,680 neu fwy yw incwm yr aelwyd, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob un swm llawn o £9.50 uwchben incwm aelwyd o £23,680; a
(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.
(3) Mewn perthynas â myfyriwr Coleg Ewrop sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner a myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd nad oes ganddo bartner, y cyfraniad yw
(a)os £11,025 neu fwy yw incwm yr aelwyd, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob un swm llawn o £9.50 uwchben incwm aelwyd o £11,025; a
(b)os yw incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.
(4) Nid yw swm y cyfraniad i fod yn fwy na £7,800 os cyfrifir y cyfraniad o dan is-baragraff (2) neu (3).
(5) Os yw is-baragraff (6) yn gymwys, nid yw agregiad y cyfraniadau a gyfrifir—
(a)o dan is-baragraff (2) neu (3) i fod yn fwy—
(i)na £7,800; neu
(ii)na'r cyfraniad a fyddai'n daladwy pe na bai ond gan un myfyriwr ddyfarniad.
(6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os incwm gweddilliol y canlynol yw incwm yr aelwyd—
(a)dau neu fwy o fyfyrwyr Coleg Ewrop mewn cysylltiad â'r un incwm o dan baragraff 4 neu, os cymerir i ystyriaeth incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol, o dan baragraffau 4 a 6; neu
(b)myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner pan fo gan y ddau ddyfarniad statudol.
8.—(1) Os yw cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 7 uchod a bod un neu fwy o'r amodau yn is-baragraff (2) wedi ei fodloni neu eu bodloni, swm y cyfraniad sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r myfyriwr Coleg Ewrop fydd y swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn deg o ystyried—
(a)cymhwyso paragraff 7 i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr presennol Coleg Ewrop yn y drefn honno; a
(b)amgylchiadau arbennig y myfyriwr Coleg Ewrop.
(2) Y canlynol yw'r amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) uchod—
(a)mae gan fwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr Coleg Ewrop ddyfarniad statudol;
(b)mae gan riant y myfyriwr Coleg Ewrop ddyfarniad statudol;
(c)mae gan bartner rhiant y myfyriwr Coleg Ewrop ddyfarniad statudol;
(ch)mae gan bartner y myfyriwr Coleg Ewrop ddyfarniad statudol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: