ATODLEN 1DATGANIADAU A CHWESTIYNAU SYDD I'W GOFYN MEWN REFFERENDWM

Rheoliad 3

Image_r00002

Image_r00003

ATODLEN 2Materion sy'n berthnasol i Dreuliau Refferendwm

Rheoliad 6(1)

1

Hysbysebion o unrhyw fath (beth bynnag fo'r cyfrwng).

Mae treuliau ar gyfer y cyfryw hysbysebion yn cynnwys ffioedd asiantaethau, costau dylunio, a chostau eraill mewn cysylltiad â pharatoi, cynhyrchu, dosbarthu neu sydd fel arall yn lledaenu'r cyfryw hysbysebion neu unrhyw beth sy'n ymgorffori'r cyfryw hysbysebion hynny ac a fwriedir ei ddosbarthu at y diben o'u lledaenu.

2

Deunydd digymell a gyfeirir at bleidleiswyr (p'un ai wedi ei gyfeirio atynt wrth eu henwau neu wedi ei fwriadu i'w ddanfon i aelwydydd o fewn unrhyw ardal neu ardaloedd penodol).

Mae treuliau mewn perthynas â'r cyfryw ddeunyddiau yn cynnwys y costau dylunio a chostau eraill mewn cysylltiad â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu'r cyfryw ddeunyddiau (gan gynnwys cost eu postio).

3

Unrhyw ddeunyddiau o'r math a ddisgrifir yn rheoliad 5(1).

4

Ymchwil y farchnad neu ganfasio a gynhelir at y diben o ganfod bwriadau pleidleisio.

5

Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau mewn cysylltiad â chynadleddau i'r wasg neu drafodion eraill gyda'r cyfryngau.

6

Cludo (drwy ba ddull bynnag) pobl i unrhyw le neu leoedd gyda'r bwriad o ennill cyhoeddusrwydd mewn cysylltiad ag ymgyrch refferendwm.

Mae'r treuliau ar gyfer cludo'r cyfryw bobl yn cynnwys y gost o logi math penodol o gludiant ar gyfer y cyfan neu ran o gyfnod y refferendwm.

7

Ralïau a digwyddiadau eraill, gan gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir i gael cyhoeddusrwydd mewn cysylltiad ag ymgyrch refferendwm neu at ddibenion eraill sy'n ymwneud ag ymgyrch refferendwm.

Mae'r treuliau ar gyfer y cyfryw ddigwyddiadau yn cynnwys costau mewn cysylltiad â phresenoldeb pobl mewn digwyddiadau o'r fath, llogi mangreoedd at ddibenion y cyfryw ddigwyddiadau hynny neu ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ynddynt.

8

Ni ddylid dehongli unrhyw beth ym mharagraffau 1 i 7 i olygu ei fod a wnelo ag—

a

unrhyw dreuliau o ran unrhyw eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau i'r graddau y mae'r treuliau hynny i'w talu o gyllid cyhoeddus;

b

unrhyw dreuliau a dynnir o ran tâl neu lwfansau sy'n daladwy i unrhyw aelod o staff trefnydd yr ymgyrch;

c

unrhyw dreuliau a dynnir mewn perthynas ag unigolyn o ran costau teithio (ar ba bynnag ddull cludiant) neu o ran darparu llety neu unrhyw anghenion personol eraill ar gyfer yr unigolyn hwnnw i'r graddau y telir y treuliau gan yr unigolyn o'i adnoddau ei hunan heb iddo gael ad-daliad ohonynt.

ATODLEN 3Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol

Rheoliad 8

RHAN 1Enwi a Dehongli

Enw1

Enw'r Rheolau hyn yw Rheolau Refferenda'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

Dehongli2

1

Yn y Rheolau hyn, ystyr “pleidleisiwr” (“voter”) yw person sydd â hawl i bleidleisio ar ran y person hwnnw ei hunan.

2

Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheolau hyn yn ogystal ag yn Neddf 1983 (fel y mae'n gymwys i etholiadau llywodraeth leol) yr un ystyr yn y Rheolau hyn ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.

RHAN 2Darpariaethau o ran Amser

3

Rhaid cynnal y gweithrediadau yn y refferendwm yn unol â'r Amserlen ganlynol.

Amserlen

Gweithrediadau

Amser

Cyhoeddi hysbysiad o refferendwm

Dim hwyrach na'r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod y refferendwm

Hysbysiad o'r bleidlais

Dim hwyrach na'r chweched diwrnod cyn diwrnod y refferendwm.

Pleidleisio

Rhwng yr oriau o 7 y bore a 10 yr hwyr ar ddiwrnod y refferendwm.

Cyfrif amser4

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o amser at ddibenion yr amserlen rhaid anwybyddu'r diwrnodau a grybwyllir yn rheoliad 14(2)(a) i (c), a rhaid peidio â thrin unrhyw un o'r cyfryw ddiwrnodau fel diwrnod at ddiben unrhyw weithrediadau hyd at gwblhau'r bleidlais, ac nid oes rhwymedigaeth ar y swyddog cyfrif ychwaith i fynd ymlaen â chyfrif y pleidleisiau ar un o'r cyfryw ddiwrnodau.

RHAN 3Darpariaethau Cyffredinol

Hysbysiad o refferendwm5

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif gyhoeddi hysbysiad o refferendwm, sy'n datgan dyddiad y pleidleisio.

2

Rhaid i'r hysbysiad o refferendwm ddatgan erbyn pa ddyddiad y bydd yn rhaid i—

a

ceisiadau i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, a

b

ceisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy,

gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn iddynt fod yn effeithiol ar gyfer y refferendwm.

Pleidleisio drwy bleidlais gyfrinachol6

Rhaid cymryd pleidlais yn y refferendwm a rhaid i'r pleidleisiau gael eu bwrw mewn pleidlais gyfrinachol.

Y papurau pleidleisio7

1

Rhaid i bleidlais pob person sydd â hawl i bleidleisio yn y refferendwm gael ei bwrw drwy ddefnyddio papur pleidleisio.

2

Rhaid i bob papur pleidleisio sydd i'w ddefnyddio yn y refferendwm fod yn y ffurf briodol fel yn yr Atodiad (sy'n dibynnu ar y cwestiwn sydd i'w ofyn yn y refferendwm).

3

Rhaid i bob papur pleidleisio —

a

bod yn bapur y gellir ei blygu; a

b

bod â rhif a nod adnabod unigryw arall wedi ei argraffu ar ei gefn.

Y rhestr rhifau cyfatebol8

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif baratoi rhestr sy'n cynnwys rhifau a nodau adnabod unigryw eraill yr holl bapurau pleidleisio sydd i'w dyroddi gan y swyddog cyfrif yn unol â rheol 13(1) neu eu darparu gan y swyddog cyfrif yn unol â rheol 17(1).

2

Rhaid i'r rhestr fod yn y ffurf briodol fel yn yr Atodiad neu ffurf ag effaith gyffelyb.

Y nod swyddogol9

1

Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys nod diogelwch priodol (y nod swyddogol).

2

Rhaid cadw'r nod swyddogol yn gyfrinach.

3

Caiff y swyddog cyfrif ddefnyddio nod swyddogol gwahanol at wahanol ddibenion yn yr un refferendwm.

Gwahardd datgelu pleidlais10

Nid oes gorfodaeth ar unrhyw berson a bleidleisiodd yn y refferendwm, mewn unrhyw achos cyfreithiol a gynhelir i gwestiynu'r refferendwm, ddatgan dros ba ateb y pleidleisiodd y person hwnnw.

Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus11

1

Caiff y swyddog cyfrif ddefnyddio, yn ddi-dâl, at y diben o gymryd y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau—

a

ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol y gwneir grantiau mewn perthynas â hi allan o arian a ddarperir gan Weinidogion Cymru i'r person neu'r corff o bersonau sy'n gyfrifol am reolaeth yr ysgol;

b

ystafell y mae'r draul o'i chynnal yn daladwy allan o unrhyw dreth.

2

Rhaid i'r swyddog cyfrif adfer unrhyw ddifrod a achosir i unrhyw ystafell o'r math a grybwyllir uchod, a thalu unrhyw draul a achosir i'r personau sydd â rheolaeth drosti, o ganlyniad i'w defnyddio at y diben o gymryd y bleidlais neu o gyfrif y pleidleisiau.

RHAN 4Gweithredu i'w Gyflawni cyn y Bleidlais

Hysbysiad o bleidlais12

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif gyhoeddi hysbysiad o'r bleidlais sy'n datgan —

a

y diwrnod a'r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais, a

b

y datganiad a'r cwestiwn i'w ofyn yn y refferendwm.

2

Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad o bleidlais ddim hwyrach na'r chweched diwrnod cyn dyddiad y refferendwm.

3

Rhaid i'r swyddog cyfrif, ddim hwyrach na'r adeg y cyhoeddir yr hysbysiad o'r bleidlais, roi hysbysiad cyhoeddus hefyd o—

a

lleoliad pob gorsaf bleidleisio; a

b

disgrifiad o'r personau sydd a hawl i bleidleisio yno.

Papurau pleidlais bost13

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1983,26 ddyroddi i'r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post bapur pleidleisio a datganiad pleidlais bost, yn y ffurf briodol fel sydd yn yr Atodiad, neu ffurf ag effaith gyffelyb, ynghyd â pha bynnag amlenni ar gyfer eu dychwelyd a ragnodir gan y cyfryw reoliadau.

2

Rhaid i'r swyddog cyfrif hefyd ddyroddi i'r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post pa bynnag wybodaeth y mae'r swyddog cyfrif yn ei hystyried yn briodol ynglŷn â sut y gellir cael—

a

cyfieithiadau i ieithoedd ac eithrio'r Gymraeg neu'r Saesneg o unrhyw gyfarwyddiadau neu o ganllawiau i bleidleiswyr a dirprwyon a anfonir ynghyd â'r papur pleidleisio;

b

cyfieithiad i Braille o'r cyfryw gyfarwyddiadau neu ganllawiau;

c

portreadau graffigol o'r cyfryw gyfarwyddiadau neu ganllawiau;

ch

y cyfarwyddiadau neu ganllawiau mewn unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).

3

Rhaid i'r datganiad pleidlais bost gynnwys darpariaeth ar gyfer llofnodi'r ffurflen ac ar gyfer datgan dyddiad geni'r pleidleisiwr neu'r dirprwy.

4

Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i'r swyddog cyfrif sicrhau y gall y pleidleisiwr neu'r dirprwy ddychwelyd y papur pleidleisio yn ddi—dâl.

Darparu gorsafoedd pleidleisio14

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio ac, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol o'r rheol hon, rhaid iddo ddyrannu pleidleiswyr i'r gorsafoedd pleidleisio yn y modd y tybia'r swyddog cyfrif yw'r hwylusaf.

2

Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.

3

Rhaid i'r orsaf bleidleisio a ddyrennir i bleidleiswyr o unrhyw ddosbarth etholiadol seneddol, sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal y bleidlais, fod yn y man pleidleisio seneddol ar gyfer y dosbarth hwnnw, onid oes amgylchiadau arbennig.

4

Rhaid i'r swyddog cyfrif, ym mhob gorsaf bleidleisio, ddarparu pa bynnag nifer o fythau y gall fod eu hangen, lle y gall pleidleiswyr a dirprwyon farcio'u pleidleisiau o'r golwg, y tu ôl i sgrîn.

Penodi swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio15

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif benodi a thalu i swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio a'r cyfryw glercod ag y bo'u hangen at ddibenion y refferendwm.

2

Os gwêl y swyddog cyfrif yn dda, caiff y swyddog cyfrif lywyddu mewn gorsaf bleidleisio, ac y mae'r darpariaethau yn y Rheolau hyn sy'n gymwys i swyddog llywyddu yn gymwys hefyd i swyddog cyfrif sy'n llywyddu felly, gyda'r addasiadau angenrheidiol o ran y pethau sydd i'w gwneud gan y swyddog cyfrif i'r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu i'r swyddog cyfrif.

3

Caiff swyddog llywyddu wneud, drwy'r clercod a benodir i gynorthwyo'r swyddog llywyddu, unrhyw weithred (gan gynnwys gofyn cwestiynau) yr awdurdodir y swyddog llywyddu i'w gwneud gan y Rheolau hyn, neu y mynnir ei fod yn ei gwneud, mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio gorchymyn i arestio unrhyw berson, neu ei allgáu neu ei symud o'r orsaf bleidleisio.

Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol16

1

Rhaid i'r swyddog cyfrifo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad o refferendwm, anfon cerdyn pleidleisio swyddogol at bob pleidleisiwr a dirprwy.

2

Rhaid i'r cerdyn pleidleisio swyddogol gael ei anfon neu ei ddanfon—

a

yn achos pleidleisiwr, i gyfeiriad cymhwyso'r pleidleisiwr, a

b

yn achos dirprwy, i gyfeiriad y dirprwy fel y'i dangosir yn y rhestr dirprwyon.

3

Rhaid i'r cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol fel y'i dangosir yn yr Atodiad neu ffurf ag effaith gyffelyb effaith, a rhaid iddo nodi—

a

enw'r cyngor ac ardal y bleidlais;

b

enw'r pleidleisiwr, cyfeiriad cymwys y pleidleisiwr a'i rif ar y gofrestr;

c

dyddiad ac oriau'r bleidlais a lleoliad gorsaf bleidleisio'r pleidleisiwr;

ch

pa wybodaeth bynnag arall ag y bo'r swyddog cyfrif yn ei hystyried yn briodol,

a chaniateir darparu gwybodaeth wahanol yn unol ag is-baragraff (ch) i wahanol bleidleiswyr neu i wahanol ddisgrifiadau o bleidleiswyr.

4

Yn achos pleidleisiwr sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn hytrach na chynnwys y deunydd a grybwyllir ym mharagraff (3)(b), rhaid i'r cerdyn pleidleisio gynnwys y cyfryw ddeunydd a bennir yn y ffurf briodol yn yr Atodiad.

5

Yn y rheol hon mae cyfeiriadau at bleidleisiwr—

a

yn cyfeirio at berson sy'n gofrestredig yn y gofrestr o etholwyr llywodraeth lleol ar gyfer ardal y bleidlais dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o refferendwm; a

b

yn cynnwys person a ddangosir yn y gofrestr bryd hynny fel un sydd islaw oedran pleidleisio, os (ond yn unig os) yw'n ymddangos yn ôl y gofrestr y bydd y person hwnnw mewn oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais.

Cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio17

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu i bob swyddog llywyddu pa bynnag nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio a all fod, ym marn y swyddog cyfrif, yn angenrheidiol.

2

Rhaid i bob blwch pleidleisio fod o wneuthuriad fel y gellir rhoi papurau pleidleisio i mewn ynddo ond na ellir eu tynnu allan heb ddatgloi'r blwch, neu, os nad oes clo ar y blwch, heb dorri'r sêl.

3

Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

a

deunyddiau i alluogi'r pleidleiswyr a'r dirprwyon i farcio'r papurau pleidleisio;

b

copïau o'r gofrestr etholwyr ar gyfer ardal y bleidlais, neu'r cyfryw ran ohoni sy'n cynnwys enwau'r etholwyr a ddyrannwyd i'r orsaf bleidleisio;

c

y rhannau o unrhyw restrau arbennig a baratowyd ar gyfer y refferendwm sy'n cyfateb i'r rhestr etholwyr ar gyfer ardal y bleidlais neu'r rhan ohoni a ddarperir o dan is-baragraff (b);

ch

rhestr a gyfansoddir o'r rhan honno o'r rhestr a baratowyd o dan reol 8 sy'n cynnwys y rhifau (ond nid y nodau adnabod unigryw eraill) sy'n cyfateb i'r rhifau ar y papurau pleidleisio a ddarparwyd i swyddog llywyddu yr orsaf bleidleisio.

4

Mae'r cyfeiriad ym mharagraff 3(b) at y copïau o'r gofrestr etholwyr yn cynnwys cyfeiriad at gopïau o unrhyw hysbysiadau a gyhoeddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 198327 mewn perthynas â newidiadau yn y gofrestr.

5

Rhaid i'r swyddog cyfrif ddarparu hefyd i bob gorsaf bleidleisio —

a

o leiaf un fersiwn fawr o'r papur pleidleisio, y mae'n rhaid ei arddangos y tu mewn i'r orsaf bleidleisio, i gynorthwyo pleidleiswyr a dirprwyon sy'n gweld yn rhannol; a

b

dyfais fel a ddisgrifir ym mharagraff (9) i alluogi pleidleiswyr sy'n ddall neu sy'n gweld yn rhannol i bleidleisio heb fod arnynt angen cymorth gan y swyddog llywyddu nac unrhyw gydymaith (o fewn ystyr rheol 28(1)).

6

Rhaid argraffu hysbysiad mewn llythrennau amlwg yn y ffurf sydd yn yr Atodiad, i roi cyfarwyddiadau fel canllaw i bleidleiswyr a dirprwyon ynglŷn â phleidleisio, a rhaid ei arddangos y tu mewn a thu allan i bob gorsaf bleidleisio.

7

Caiff y swyddog cyfrif ddarparu hefyd gopïau o'r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (6) mewn Braille, neu ei gyfieithu i ieithoedd ac eithrio'r Gymraeg a'r Saesneg, fel y gwêl y swyddog cyfrif yn briodol, ar yr amod yr atgynhyrchir yr hysbysiad yn fanwl gywir mewn Braille neu yn yr iaith arall.

8

Ym mhob bwth ym mhob gorsaf bleidleisio rhaid arddangos y hysbysiad

REFFERENDWM [Noder enw'r cyngor ….]. Rhowch groes (X) yn y blwch ar yr ochr dde gyferbyn â'r ateb o'ch dewis. Pleidleisiwch UN WAITH yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu efallai na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.

[Specify name of council ….] REFERENDUM. Mark a cross (X) in the box on the right hand side of the answer of your choice. Vote ONCE only. Put no other mark on the ballot paper, or your vote may not be counted.

9

Rhaid i'r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff 5(b)—

a

ganiatáu i bapur pleidleisio gael ei roi i mewn ynddi a'i dynnu allan ohoni, neu ei gysylltu wrthi a'i ddatgysylltu oddi wrthi, yn rhwydd a hynny heb ddifrodi'r papur;

b

dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le tra defnyddir y ddyfais; ac

c

darparu dull addas i bleidleiswyr a dirprwyon—

i

adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio lle y gall y pleidleisiwr neu'r dirprwy farcio pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy;

ii

canfod i ba ateb y mae pob un o'r cyfryw fylchau yn perthyn; a

iii

marcio pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy yn y bwlch a ddewisir gan y pleidleisiwr neu'r dirprwy.

Penodi arsylwyr pleidleisio ac arsylwyr cyfrif18

1

Caiff y swyddog cyfrif benodi personau i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio at y diben o ddarganfod cambersonadu (“arsylwyr pleidleisio”).

2

Rhaid i'r swyddog cyfrif benodi personau i arsylwi ar gyfrif y pleidleisiau a gwirio'r gyfriflen papurau pleidleisio (“arsylwyr cyfrif”).

3

At y diben o gynorthwyo'r swyddog cyfrif i gyflawni swyddogaethau'r swyddog cyfrif o dan baragraff (2), caiff trefnydd deiseb enwebu personau sydd, ym marn y trefnydd deiseb, yn addas i'w penodi yn arsylwyr cyfrif.

4

Rhaid gwneud enwebiad o dan baragraff (3) drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif, ddim hwyrach na'r pumed diwrnod cyn y bleidlais (gan anwybyddu unrhyw ddiwrnod sydd i'w anwybyddu yn rhinwedd rheol 4) a rhaid i'r hysbysiad gynnwys cyfeiriad pob enwebai.

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r swyddog cyfrif beidio, heb reswm digonol, â gwrthod penodi yn arsylwr cyfrif unrhyw berson a enwebir gan drefnydd deiseb o dan baragraff (3).

6

Caiff y swyddog cyfrif gyfyngu ar nifer yr arsylwyr cyfrif, fodd bynnag, fel bod—

a

rhaid caniatáu yr un nifer yn achos pob trefnydd deiseb, a

b

rhaid i'r nifer a ganiateir i drefnydd deiseb (ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig) beidio â bod yn llai na'r nifer a gyfrifir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir ar gyfer cyfrif y pleidleisiau gan nifer y trefnwyr deisebau.

  • At ddibenion y cyfrifiadau sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn, mae arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad mwy nag un trefnydd deiseb yn arsylwr cyfrif ar wahân ar gyfer pob un o'r trefnwyr deiseb a'i henwebodd.

7

Os bydd farw arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad trefnydd deiseb, neu os yw'n mynd yn analluog i weithredu, caiff y trefnydd deiseb a wnaeth yr enwebiad enwebu person arall i'w benodi yn arsylwr cyfrif yn lle'r person hwnnw, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif.

8

Mae'r paragraffau (4) a (5) yn gymwys i enwebiad o dan baragraff (7), os rhoddir “diwrnod olaf” yn lle “pumed diwrnod ” ym mharagraff (4).

9

Yn narpariaethau'r Rheolau hyn sy'n dilyn, mae cyfeiriadau at arsylwyr pleidleisio ac arsylwyr cyfrif i'w dehongli fel cyfeiriadau at arsylwyr sydd eisoes wedi eu penodi.

10

Caniateir i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol i'r swyddog cyfrif ei roi i arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad trefnydd deiseb gael ei ddanfon, neu ei anfon drwy'r post, i'r cyfeiriad a nodir yn yr hysbysiad o enwebiad.

11

Caiff trefnydd deiseb wneud unrhyw weithred neu beth yr awdurdodir arsylwr cyfrif i'w wneud, neu caiff gynorthwyo unrhyw arsylwr cyfrif a benodwyd yn dilyn ei enwebu, i wneud unrhyw weithred neu beth o'r fath.

12

Pan pan fo'n ofynnol neu pan awdurdodir, o dan y Rheolau hyn, gwneud unrhyw weithred neu beth ym mhresenoldeb yr arsylwyr pleidleisio neu'r arsylwyr cyfrif, ni fydd amhresenoldeb unrhyw berson o'r fath ar yr adeg ac yn y man a bennwyd at y diben hwnnw, os cyflawnir y weithred neu'r peth yn briodol fel arall, yn annilysu'r weithred neu'r peth a wneir.

Hysbysu ynghylch gofyniad cyfrinachedd19

Rhaid i'r swyddog cyfrif wneud pa bynnag drefniadau y tybia'r swyddog cyfrif sy'n addas i sicrhau —

a

bod pob person sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio (ac eithrio at y diben o bleidleisio neu gynorthwyo pleidleisiwr neu ddirprwy sydd ag anableddau i bleidleisio neu fel cwnstabl ar ddyletswydd yno) wedi cael copi ysgrifenedig o ddarpariaethau is-adrannau (1), (3) a (6) o adran 66 o Ddeddf 198328, fel y'u cymhwysir gan Atodlen 4; a

b

bod pob person sy'n bresennol yn y cyfrif pleidleisiau (ac eithrio unrhyw gwnstabl ar ddyletswydd yn y cyfrif) wedi cael copi ysgrifenedig o ddarpariaethau is-adrannau (2) a (6) o'r adran honno fel y'u cymhwysir gan Atodlen 4.

Dychwelyd papurau pleidleisio20

1

Pan fo—

a

pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, neu

b

pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn perthynas â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr o bleidleiswyr post fel dirprwyon,

rhaid i'r swyddog cyfrif farcio'r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau a wnaed o dan Ddeddf 198329.

2

Nid yw rheol 36(3) yn gymwys at y diben o benderfynu, at ddibenion y rheol hon, a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd.

RHAN 5Y Bleidlais

Mynediad i orsaf bleidleisio21

1

Rhaid i'r swyddog llywyddu allgáu pob person o'r orsaf bleidleisio ac eithrio—

a

pleidleiswyr a dirprwyon;

b

personau o dan 18 mlwydd oed sy'n dod gyda phleidleiswyr a dirprwyon i'r orsaf bleidleisio;

c

yr arsylwyr pleidleisio a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio;

ch

y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio;

d

personau sydd â hawl i fod yn bresennol o dan unrhyw rai o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 200030;

dd

y cwnstabliaid sydd ar ddyletswydd;

e

cymdeithion pleidleiswyr a dirprwyon sydd ag anableddau;

f

maer etholedig, os oes un, y cyngor y cynhelir y refferendwm mewn perthynas ag ef; ac

ff

unrhyw drefnydd deiseb.

2

Rhaid i'r swyddog llywyddu reoli nifer cyfanswm y pleidleiswyr, dirprwyon a phersonau o dan 18 mlwydd oed sy'n dod gyda hwy, y caniateir mynediad iddynt i'r orsaf bleidleisio yr un pryd.

3

Rhaid peidio â chaniatáu mynediad i bleidleisio yn bersonol i gwnstabl neu berson a gyflogir gan y swyddog cyfrif yn unman heblaw'r orsaf bleidleisio a ddyrannwyd i'r cwnstabl neu'r person cyflogedig hwnnw o dan y Rheolau hyn, ac eithrio drwy ddangos ac ildio tystysgrif gyflogaeth y mae'n rhaid iddi fod yn y ffurf yn yr Atodiad neu ffurf ag effaith gyffelyb ac wedi ei llofnodi gan swyddog o'r heddlu o radd arolygydd neu radd uwch, neu gan y swyddog cyfrif, yn ôl y digwydd.

4

Rhaid i unrhyw dystysgrif a ildir o dan y rheol hon gael ei chanslo ar unwaith.

Cadw trefn mewn gorsaf22

1

Dyletswydd y swyddog llywyddu yw cadw trefn yng ngorsaf bleidleisio'r swyddog llywyddu.

2

Os yw person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu'n gwrthod ufuddhau i orchmynion cyfreithlon y swyddog llywyddu, caniateir symud y person hwnnw ar unwaith, ar orchymyn y swyddog llywyddu, allan o'r orsaf bleidleisio—

a

gan gwnstabl sydd yn yr orsaf honno neu gerllaw, neu

b

gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog cyfrif i symud y person hwnnw,

a rhaid i'r person a symudir felly beidio â mynd i mewn drachefn i'r orsaf bleidleisio yn ystod y diwrnod heb ganiatâd y swyddog llywyddu.

3

Caniateir i unrhyw berson a symudir felly, os y'i cyhuddir o gyflawni tramgwydd yn yr orsaf bleidleisio, gael ei drin fel person a gymerir i'r ddalfa gan gwnstabl am dramgwydd heb warant.

4

Rhaid peidio ag arfer y pwerau a gyflwynir gan y rheol hon i atal pleidleisiwr neu ddirprwy, sydd fel arall â hawl i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.

Selio blychau pleidleisio23

Yn union cyn cychwyn y pleidleisio, rhaid i'r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio yn wag i'r personau hynny, os oes rhai, sy'n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag, ac yna, os oes clo ar y blwch, rhaid iddo ei gloi, a gosod sêl y swyddog llywyddu ar y blwch (p'un a oes clo ar y blwch ai peidio) yn y fath fodd fel na ellir ei agor heb dorri'r sêl, yna rhaid iddo osod y blwch yng ngolwg y swyddog llywyddu, yn barod ar gyfer derbyn papurau pleidleisio, a'i gadw felly dan glo ac wedi ei selio, neu wedi ei selio (yn ôl y digwydd).

Cwestiynau i'w gofyn i etholwyr a dirprwyon24

1

Ar yr adeg pan wneir cais am bapur pleidleisio (ond nid wedyn), mae'r cwestiynau a bennir yn ail golofn y Tabl sy'n dilyn yn rhai —

a

y caiff y swyddog llywyddu eu gofyn i berson sy'n gwneud cais am bapur pleidleisio ac a grybwyllir yn y golofn gyntaf, a

b

y mae'n rhaid eu gofyn os oes llythyren “R” yn ymddangos ar ôl y cwestiwn a threfnydd deiseb yn mynnu bod y cwestiwn yn cael ei ofyn:

Rhif y C.

Person sy'n gwneud cais am bapur pleidleisio

Cwestiwn

1

Person sy'n gwneud cais fel pleidleisiwr

a

—Ai chi yw'r person sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol fel a ganlyn?

  • darllener y cofnod cyfan o'r gofrestr [R]

b

—A ydych eisoes wedi pleidleisio, yma neu yn rhywle arall, yn yr etholiad hwn, ar wahân i fel dirprwy dros berson arall? [R]

2

Person sy'n gwneud cais fel dirprwy

a

—Ai chi yw'r person y mae eich enw yn ymddangos fel A.B. ar y rhestr o ddirprwyon ar gyfer ardal y bleidlais hon fel rhywun sydd â hawl i fwrw pleidlais ddirprwy ar ran C.D.? [R]

b

—A ydych eisoes wedi pleidleisio, yma neu yn rhywle arall, yn y refferendwm hwn, fel dirprwy ar ran C.D? [R]

c

—Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, nain (mam-gu) neu daid (tad-cu), brawd, chwaer, plentyn, neu ŵyr neu wyres C.D? [R]

3

Person sy'n gwneud cais fel dirprwy i bleidleisiwr sydd â chofnod dienw (yn lle'r cwestiynau yng nghofnod 2)

a

—Ai chi yw'r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â'r rhif canlynol ar y gofrestr etholwyr ar ei gyfer (darllener y rhif)? [R]

b

—A ydych eisoes wedi pleidleisio, yma neu yn rhywle arall, yn y refferendwm hwn, fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â'r rhif canlynol ar y gofrestr etholwyr ar ei gyfer (darllener y rhif)? [R]

c

—Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, nain (mam-gu) neu daid (tad-cu), brawd neu chwaer, plentyn, neu ŵyr neu wyres yr etholwr sydd â'r rhif canlynol ar y gofrestr etholwyr (darllener y rhif)? [R]

4

Person sy'n gwneud cais fel dirprwy pan nad atebir y cwestiwn yng nghofnod 2(c) neu 3(c) yn gadarnhaol

A ydych eisoes wedi pleidleisio yn y refferendwm hwn ar ran dau berson a chithau heb fod yn briod, partner sifil, rhiant, nain (mam-gu) neu daid (tad-cu), brawd neu chwaer, plentyn, neu ŵyr neu wyres iddynt? [R]

5

Person sy'n gwneud cais fel pleidleisiwr ac yntau â chofnod ar ei gyfer yn y rhestr pleidleiswyr post.

a

—A wnaethoch gais i bleidleisio drwy'r post?

b

—Pam na wnaethoch bleidleisio drwy'r post?

6

Person sy'n gwneud cais fel dirprwy ac a enwir ar y rhestr o bleidleiswyr post fel dirprwyon

a

—A wnaethoch wneud cais i bleidleisio drwy'r post fel dirprwy?

b

—Pam na wnaethoch bleidleisio drwy'r post fel dirprwy?

2

Yn achos person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, mae'r cyfeiriadau at ddarllen o'r gofrestr yn y cwestiynau yng nghofnodion 1(a) a 3(a), (b) ac (c) i'w dehongli fel cyfeiriadau at ddarllen o'r hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983.

3

Rhaid peidio â chyflwyno papur pleidleisio i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo ateb unrhyw rai o'r cwestiynau uchod oni fydd y person hwnnw wedi ateb pob un o'r cwestiynau yn foddhaol.

4

Ac eithrio fel a awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir gwneud unrhyw ymholiad ynghylch hawl person i bleidleisio.

Herio pleidleisiwr neu ddirprwy25

Rhaid peidio ag atal person rhag pleidleisio oherwydd, yn unig, bod—

a

unrhyw drefnydd deiseb neu arsylwr pleidleisio y caniateir iddo fod yn bresennol yn unol â rheol 21(1) yn datgan bod ganddo achos rhesymol dros gredu bod y person dan sylw wedi cyflawni'r tramgwydd o gambersonadu, neu

b

bod y person wedi ei arestio ar sail amheuaeth ei fod yn cyflawni neu ar fin cyflawni tramgwydd o'r fath.

Gweithdrefn bleidleisio26

1

Rhaid traddodi papur pleidleisio i bleidleisiwr neu ddirprwy sy'n gwneud cais am un, ac yn union cyn traddodi—

a

rhaid dweud yn uchel rhif ac (onid yw paragraff (2) yn gymwys) enw'r pleidleisiwr fel y'i datgenir yn y copi o'r gofrestr etholwyr;

b

rhaid marcio rhif y pleidleisiwr, fel y'i datgenir yn y gofrestr, ar y rhestr a grybwyllir yn rheol 17(3) (ch) wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i'w ddyroddi i'r pleidleisiwr;

c

rhaid rhoi marc yn y copi o'r gofrestr etholwyr gyferbyn â rhif y pleidleisiwr i nodi ei fod wedi cael papur pleidleisio, ond heb ddangos pa un oedd y papur pleidleisio penodol a gafodd; ac

ch

yn achos person sy'n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid rhoi marc hefyd gyferbyn ag enw'r person hwnnw yn y rhestr o ddirprwyon.

2

Yn achos pleidleisiwr sydd â chofnod dienw, rhaid i'r pleidleisiwr ddangos cerdyn pleidleisio swyddogol y pleidleisiwr i'r swyddog llywyddu, a rhif y pleidleisiwr yn unig y mae'n rhaid ei ddweud yn uchel yn unol â pharagraff (1)(a).

3

Yn achos pleidleisiwr a ychwanegir at y rhestr yn unol â hysbysiad a ddyroddir o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, addesir paragraff (1) fel a ganlyn—

a

yn is-baragraff (a), yn lle “copi o'r gofrestr etholwyr” rhodder “copi o'r hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”;

b

yn is-baragraff (b), yn lle “yn y gofrestr” rhodder “ar y copi o'r hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”;

c

yn is-baragraff (c), yn lle “yn y copi o'r gofrestr etholwyr” rhodder “ar y copi o'r hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”.

4

Rhaid i'r pleidleisiwr neu'r dirprwy, ar ôl cael y papur pleidleisio, fynd yn syth i un o'r bythau yn yr orsaf bleidleisio ac yno, yn gyfrinachol, marcio papur y pleidleisiwr neu'r dirprwy a'i blygu er mwyn cuddio pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy, ac yna rhaid iddo ddangos cefn y papur i'r swyddog llywyddu gan ddatgelu'r rhif a'r nod adnabod unigryw arall, a rhoi'r papur pleidleisio, wedi ei blygu felly, i mewn yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.

5

Rhaid i'r pleidleisiwr neu'r dirprwy bleidleisio heb oedi yn ormodol, a rhaid iddo adael yr orsaf bleidleisio cyn gynted ag y bo'r papur pleidleisio wedi ei roi yn y blwch pleidleisio.

Pleidleisiau wedi eu marcio gan y swyddog llywyddu27

1

Rhaid i'r swyddog llywyddu, ar gais pleidleisiwr neu ddirprwy —

a

sy'n analluog oherwydd dallineb neu anabledd arall i bleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y Rheolau hyn, neu

b

sy'n datgan ar lafar na all y pleidleisiwr neu'r dirprwy ddarllen,

ym mhresenoldeb yr arsylwyr pleidleisio (os oes rhai), achosi i bleidlais y person hwnnw gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y person hwnnw, ac i'r papur pleidleisio gael ei roi yn y blwch pleidleisio.

2

Rhaid i enw pob person y caiff ei bleidlais ei marcio yn unol â'r rheol hon, a'i rif ar y rhestr etholwyr ynghyd â'r rheswm pam y'i marciwyd felly, gael eu cofnodi ar restr (a elwir yn y Rheolau hyn “y rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”).

  • Yn achos person sy'n pleidleisio fel dirprwy ar ran pleidleisiwr, y rhif sydd i'w gofnodi, ynghyd ag enw'r dirprwy, yw'r rhif sydd yn y gofrestr ar gyfer y pleidleisiwr.

3

Yn achos person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, mae paragraff (2) yn gymwys fel pe bai'r geiriau “pob person y caiff ei bleidlais ei marcio yn unol â'r rheol hon a'i rif ar y rhestr etholwyr” wedi eu disodli gan “a'r rhif ar gyfer pob person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 ac y caiff ei bleidlais ei marcio yn unol â'r rheol hon”.

Pleidleisio gan bersonau ag anableddau28

1

Os yw pleidleisiwr neu ddirprwy yn gwneud cais i'r swyddog llywyddu am ganiatâd ar sail—

a

dallineb neu anabledd arall, neu

b

anallu i ddarllen,

i bleidleisio gyda chymorth person arall (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “y cydymaith”) sy'n dod gyda'r pleidleisiwr neu'r dirprwy, rhaid i'r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i'r pleidleisiwr neu ddirprwy ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw'r pleidleisiwr neu'r dirprwy wedi ei analluogi gan ddallineb neu anabledd arall, neu'r anallu i ddarllen, i'r cyfryw raddau fel na all bleidleisio heb gymorth.

2

Os yw'r swyddog llywyddu—

a

yn fodlon bod y pleidleisiwr neu'r dirprwy wedi ei analluogi felly, a

b

ei fod hefyd wedi ei fodloni gan ddatganiad ysgrifenedig a wneir gan y cydymaith (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “y datganiad a wneir gan gydymaith pleidleisiwr neu ddirprwy sydd ag anableddau”) bod y cydymaith—

i

yn berson cymwys o fewn ystyr y rheol hon; a

ii

nad yw eisoes wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr neu ddirprwy ag anableddau i pleidleisio yn y refferendwm,

rhaid i'r swyddog llywyddu ganiatáu'r cais, ac yna caiff unrhyw beth o dan y Rheolau hyn sy'n ofynnol ei wneud i, neu gan, y pleidleisiwr neu'r dirprwy hwnnw mewn perthynas â bwrw pleidlais y pleidleisiwr neu'r dirprwy, ei wneud i, neu gyda chymorth, y cydymaith.

3

At ddibenion y Rheolau hyn, mae person yn bleidleisiwr neu ddirprwy ag anableddau os yw'r person hwnnw wedi gwneud y cyfryw ddatganiad fel a grybwyllir ym mharagraff (1), ac y mae person i fod yn gymwys i gynorthwyo pleidleisiwr neu ddirprwy ag anableddau i bleidleisio os yw'r person hwnnw—

a

yn berson sydd â hawl i bleidleisio ar ran y person hwnnw ei hunan yn y refferendwm; neu

b

yn dad, mam, brawd chwaer, priod, partner sifil, mab neu ferch y pleidleisiwr neu'r dirprwy ac wedi cyrraedd 18 oed.

4

Rhaid cofnodi enw pob person y bwrir ei bleidlais yn unol â'r rheol hon, ynghyd â'i rif ar y rhestr etholwyr ac enw a chyfeiriad y cydymaith, ar restr (a elwir yn y Rheolau hyn “y rhestr o bleidleiswyr neu ddirprwyon ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion”).

  • Yn achos person sy'n pleidleisio fel dirprwy ar ran pleidleisiwr, y rhif sydd i'w gofnodi, ynghyd ag enw'r dirprwy, yw'r rhif sydd yn y gofrestr ar gyfer y pleidleisiwr.

5

Yn achos person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, mae paragraff (4) yn gymwys fel pe bai'r geiriau “pob person y bwrir ei bleidlais ei yn unol â'r rheol hon a'i rif ar y rhestr etholwyr” wedi eu hamnewid gan “a'r rhif ar gyfer pob person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 ac y bwrir ei bleidlais yn unol â'r rheol hon”.

6

Rhaid i'r datganiad a wneir gan gydymaith pleidleisiwr neu ddirprwy ag anableddau—

a

fod yn y ffurf sydd yn yr Atodiad,

b

gael ei wneud gerbron y swyddog llywyddu ar yr adeg y mae'r pleidleisiwr neu'r dirprwy yn gwneud cais i bleidleisio gyda chymorth cydymaith, ac

c

gael ei roi yn ddi-oed i'r swyddog llywyddu, a rhaid i'r swyddog llywyddu ei ardystio a'i gadw.

7

Ni chaniateir codi ffi nac unrhyw dâl arall mewn perthynas â'r datganiad

Papurau pleidleisio wedi eu tendro: yr amgylchiadau pan fônt ar gael29

1

Os yw person, sy'n honni mai ef yw—

a

pleidleisiwr penodol a enwir ar y gofrestr ac nad yw ei enw yn y rhestr o bleidleiswyr absennol, neu

b

person penodol a enwir yn y rhestr o ddirprwyon fel dirprwy ar gyfer pleidleisiwr ac nad oes hawl ganddo i bleidleisio drwy'r post fel dirprwy,

yn gwneud cais am bapur pleidleisio wedi i berson arall bleidleisio yn bersonol, naill ai fel y pleidleisiwr neu ddirprwy'r pleidleisiwr, mae hawl gan yr ymgeisydd, ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae'r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn ystod y pleidleisio, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheol 30, i farcio papur pleidleisio (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “papur pleidleisio sydd wedi ei dendro”) yn yr un modd ag unrhyw bleidleisiwr neu ddirprwy arall.

2

Mae paragraff (4) yn gymwys os yw —

a

y person yn gwneud cais am bapur pleidleisio gan honni mai ef yw pleidleiswyr penodol a enwir ar y gofrestr,

b

y person wedi ei enwi hefyd yn y rhestr o bleidleiswyr post, ac

c

y person yn honni nad yw wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post yn y refferendwm.

3

Mae paragraff (4) yn gymwys hefyd os yw —

a

y person yn gwneud cais am bapur pleidleisio gan honni mai ef yw person penodol a enwir fel dirprwy yn y rhestr o ddirprwyon,

b

y person wedi ei enwi hefyd yn y rhestr o bleidleiswyr post fel dirprwyon, ac

c

y person yn honni nad yw wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post fel dirprwy.

4

Mae hawl gan y person, ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae'r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn ystod y pleidleisio, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheol 30, i farcio papur pleidleisio (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “papur pleidleisio sydd wedi ei dendro”) yn yr un modd ag unrhyw bleidleisiwr neu ddirprwy arall.

5

Mae paragraff (6) yn gymwys os yw person yn honni, cyn bo'r pleidleisio wedi cau ond ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post arall, mai ef yw—

a

pleidleisiwr penodol a enwir ar y gofrestr ac a enwir hefyd yn y rhestr pleidleiswyr post, neu

b

person penodol a enwir fel dirprwy yn y rhestr o ddirprwyon ac a enwir hefyd yn y rhestr o bleidleiswyr post fel dirprwyon,

ac yn honni ei fod wedi colli neu heb gael ei bapur pleidlais bost.

6

Mae hawl gan y person, ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae'r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn ystod y pleidleisio, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheol 30, i farcio papur pleidleisio (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “papur pleidleisio sydd wedi ei dendro”) yn yr un modd ag unrhyw bleidleisiwr neu ddirprwy arall.

Papurau pleidleisio wedi eu tendro: darpariaethau cyffredinol30

1

Rhaid i bapur pleidleisio sydd wedi ei dendro—

a

fod o liw gwahanol i'r papurau pleidleisio eraill;

b

yn hytrach na chael ei roi yn y blwch pleidleisio, gael ei roi i'r swyddog llywyddu a'i arnodi gan y swyddog llywyddu ag enw'r person a farciodd bapur pleidleisio wedi ei dendro, ynghyd â rhif y person hwnnw ar y gofrestr etholwyr, a'i roi o'r neilltu mewn pecyn ar wahân.

2

Rhaid cofnodi enw'r person a farciodd bapur pleidleisio wedi ei dendro, ynghyd â rhif y person hwnnw ar y gofrestr etholwyr, ar restr (a elwir yn y Rheolau hyn “y rhestr pleidleisiau wedi eu tendro”).

3

Yn achos person sy'n pleidleisio fel dirprwy ar ran pleidleisiwr, y rhif y mae'n rhaid ei arnodi neu ei gofnodi, ynghyd ag enw'r dirprwy, yw'r rhif sydd yn y gofrestr ar gyfer y pleidleisiwr.

4

Yn achos pleidleisiwr sydd â chofnod dienw, mae'r rheol hon a rheol 29 yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol—

a

ym mharagraffau (1)(b) a (2) uchod, rhaid anwybyddu'r cyfeiriadau at enw'r person a farciodd bapur pleidleisio wedi ei dendro;

b

fel arall, rhaid dehongli cyfeiriad at berson a enwir ar gofrestr neu restr fel cyfeiriad at berson y mae ei rif yn ymddangos yn y gofrestr neu'r rhestr (yn ôl y digwydd).

5

Yn achos person y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, mae'r rheol hon a rheol 29 yn gymwys fel pe bai—

a

yn rheol 29(1)(a), (2)(a) a (5)(a), y geiriau “a enwir ar y gofrestr” wedi eu hamnewid gan “y dyroddwyd hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”;

b

ym mharagraff (1)(b) o'r rheol hon, y geiriau “â rhif y person hwnnw ar y gofrestr etholwyr” wedi eu hamnewid gan “â'r rhif mewn perthynas â'r person hwnnw ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”;

c

ym mharagraff (2) o'r rheol hon, y geiriau “â'i rif ar y gofrestr etholwyr” wedi eu hamnewid gan “â'r rhif mewn perthynas â'r person hwnnw ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983”.

Papurau pleidleisio a ddifethwyd31

Caniateir i bleidleisiwr neu ddirprwy sydd, oherwydd amryfusedd, wedi trin ei bapur pleidleisio yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio yn gyfleus fel papur pleidleisio, drwy gyflwyno'r papur i'r swyddog llywyddu a chynnig prawf digonol o'r amryfusedd i fodloni'r swyddog llywyddu, gael papur pleidleisio arall yn lle'r papur pleidleisio a gyflwynwyd felly (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “papur pleidleisio a ddifethwyd”), a rhaid canslo ar unwaith y papur pleidleisio a ddifethwyd.

Cywiro gwallau ar ddiwrnod y pleidleisio32

Rhaid i'r swyddog llywyddu gadw rhestr o'r personau y traddodir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i newid a wneir yn y gofrestr yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 Act, sy'n cael effaith ar ddiwrnod y pleidleisio.

Gohirio pleidleisio mewn achos o derfysg33

1

Os torrir ar draws neu os rhwystrir y gweithrediadau mewn unrhyw orsaf bleidleisio gan derfysg neu drais agored, rhaid i'r swyddog llywyddu ohirio'r gweithrediadau tan y diwrnod canlynol a rhaid iddo hysbysu'r swyddog cyfrif yn ddi-oed.

2

Pan ohirir y pleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio—

a

rhaid i'r oriau pleidleisio ar y diwrnod y gohiriwyd iddo fod yr un oriau ag ar y diwrnod gwreiddiol; a

b

rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheolau hyn at gau'r pleidleisio yn unol â hynny.

Gweithdrefn wrth gau'r pleidleisio34

1

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cau'r pleidleisio rhaid i'r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb yr arsylwyr pleidleisio (os oes rhai) wneud y canlynol yn becynnau ar wahân, wedi eu selio â sêl y swyddog llywyddu ei hunan a pha bynnag seliau eraill y dymuna'r arsylwyr pleidleisio eu gosod—

a

pob blwch pleidleisio a ddefnyddiwyd yn yr orsaf, wedi eu selio mewn ffordd sy'n atal ychwanegu unrhyw bapurau pleidleisio ychwanegol a heb eu hagor, ond gyda'r allwedd, os oes un, ynghlwm,

b

y papurau pleidleisio nas defnyddiwyd a'r papurau a ddifethwyd, gyda'i gilydd,

c

y papurau pleidleisio a oedd wedi eu tendro,

ch

y copïau a farciwyd o'r gofrestr etholwyr (gan gynnwys unrhyw gopïau wedi eu marcio a ddyroddwyd o dan adran 13B (3B) neu (3D) o Ddeddf 1983) a'r rhestr o ddirprwyon,

d

y rhestrau a baratowyd o dan reol 8, gan gynnwys y rhannau a gwblhawyd yn unol â rheol 26(1)(b) (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd yn y Rheolau hyn fel “y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd”),

dd

y tystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio,

e

y rhestr o bleidleisiau a oedd wedi eu tendro, y rhestr o bleidleiswyr neu ddirprwyon ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion, y rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, datganiad o nifer y pleidleiswyr a dirprwyon y marciwyd eu pleidleisiau felly gan y swyddog llywyddu o dan y penawdau “anabledd” ac “analluog i ddarllen”, y rhestr a wnaed o dan reol 32 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y pleidleisio), a'r datganiadau a wnaed gan gymdeithion y pleidleiswyr a'r dirprwyon ag anableddau,

a rhaid iddo ddanfon y pecynnau, neu achosi iddynt gael eu danfon, at y swyddog cyfrif, er mwyn i'r swyddog cyfrif fod â gofal drostynt; ond os na ddanfonir y pecynnau gan y swyddog llywyddu yn bersonol at y swyddog cyfrif, mae'n ofynnol bod y swyddog cyfrif yn cymeradwyo'r trefniadau ar gyfer eu danfon.

2

Rhaid i'r copïau sydd wedi eu marcio o'r gofrestr etholwyr ac o'r rhestr o ddirprwyon fod mewn un pecyn, ond rhaid iddynt beidio â bod yn yr un pecyn â'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, nac ychwaith yn yr un pecyn â'r tystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio.

3

Rhaid i ddatganiad (y cyfeirir ato yn y Rheolau hyn fel “y gyfriflen papurau pleidleisio”) a baratowyd gan y swyddog llywyddu fynd gyda'r pecynnau, gan ddangos nifer y papurau pleidleisio a ymddiriedwyd i'r swyddog llywyddu a rhoi cyfrif amdanynt o dan y penawdau o bapurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na chyfrifir amdanynt fel arall, rhai nas defnyddiwyd, a ddifethwyd a phapurau pleidleisio wedi eu tendro.

RHAN 6Cyfrif Pleidleisiau

Presenoldeb ar gyfer cyfrif pleidleisiau35

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif wneud trefniadau i gyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb yr arsylwyr cyfrif cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cau'r pleidleisio, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r arsylwyr cyfrif sy'n nodi'r amser a'r lle y bydd y swyddog cyfrif yn cychwyn cyfrif y pleidleisiau.

2

Ni chaiff neb ac eithrio—

a

y swyddog cyfrif a chlercod y swyddog cyfrif,

b

yr arsylwyr cyfrif,

c

maer etholedig, os oes un, y cyngor y cynhelir y refferendwm mewn perthynas ag ef,

ch

y trefnyddion deiseb, a

d

personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000,

fod yn bresennol yn ystod cyfrif y pleidleisiau, oni chaiff ganiatâd y swyddog cyfrif i fod yn bresennol.

3

Ni fydd y swyddog cyfrif yn caniatáu i berson nad oes ganddo hawl i fod yn bresennol yn y cyfrif pleidleisiau fod yn bresennol yno, oni fodlonir y swyddog cyfrif na fydd hynny yn rhwystr i gyfrif y pleidleisiau yn effeithiol.

4

Rhaid i'r swyddog cyfrif roi pa bynnag gyfleusterau rhesymol i'r arsylwyr cyfrif ar gyfer goruchwylio'r gweithrediadau, a pha bynnag wybodaeth mewn perthynas â'r gweithrediadau, ag y gall y swyddog cyfrif eu rhoi, yn gyson â chynnal y gweithrediadau yn drefnus a chyflawni dyletswyddau'r swyddog cyfrif mewn perthynas â'r gweithrediadau.

5

Yn benodol, pan fo'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif trwy ddidoli'r papurau pleidleisio yn ôl pa ateb y pleidleisiwyd drosto ac yna cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer bob ateb, mae hawl gan yr arsylwyr cyfrif i fodloni eu hunain bod y papurau pleidleisio wedi eu didoli yn gywir.

Y cyfrif36

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif—

a

ym mhresenoldeb yr arsylwyr cyfrif, agor pob blwch pleidleisio a chyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio sydd ynddo;

b

ym mhresenoldeb yr arsylwyr cyfrif, gwirio pob cyfriflen papurau pleidleisio; ac

c

cyfrif nifer y papurau pleidlais bost a ddychwelwyd yn briodol a chofnodi'r nifer a gyfrifwyd.

2

Rhaid i'r swyddog cyfrif beidio â chyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapurau pleidleisio hyd nes eu bod —

a

yn achos papurau pleidlais bost, wedi eu cymysgu â'r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio, o leiaf, a

b

yn achos papurau pleidleisio o flwch pleidleisio, wedi eu cymysgu â'r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall, o leiaf.

3

Rhaid peidio â chymryd bod papur pleidlais bost wedi ei ddychwelyd yn briodol oni bai—

a

ei fod yn cael ei ddychwelyd yn y modd a bennir ym mharagraff (4) ac yn cyrraedd y swyddog cyfrif neu unrhyw orsaf bleidleisio yn ardal y bleidlais dan sylw cyn bod y pleidleisio'n cau;

b

bod y datganiad pleidlais bost, wedi ei lofnodi yn briodol, hefyd yn cael ei ddychwelyd yn y modd a bennir ym mharagraff (4) ac yn cyrraedd y swyddog cyfrif neu'r cyfryw orsaf bleidleisio cyn yr amser hwnnw;

c

bod y datganiad pleidlais bost hefyd yn nodi dyddiad geni pleidleisiwr neu ddirprwy; ac

ch

mewn achos pan fo'r camau ar gyfer gwirio dyddiad geni a llofnod pleidleisiwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau a wnaed o dan Ddeddf 198331, bod y swyddog cyfrif (ar ôl cymryd y cyfryw gamau) yn gwirio'r dyddiad geni a'r llofnod hwnnw.

4

Y dull a ganiateir ar gyfer dychwelyd unrhyw bapur pleidlais bost neu ddatganiad pleidlais bost —

a

at y swyddog cyfrif, yw â llaw neu drwy'r post;

b

i orsaf bleidleisio, yw â llaw.

5

Rhaid i'r swyddog cyfrif beidio â chyfrif unrhyw bapur pleidleisio sydd wedi ei dendro.

6

Rhaid i'r swyddog cyfrif, tra'n cyfrif ac yn cofnodi nifer y papurau pleidleisio ac yn cyfrif y pleidleisiau gadw'r papurau pleidleisio â'u hwynebau tuag i fyny, a chymryd pob rhagofal priodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu'r nodau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

7

Rhaid i'r swyddog cyfrif wirio pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodir gan y swyddog cyfrif, a'r papurau pleidleisio nas defnyddiwyd neu a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog cyfrif a'r rhestr pleidleisiau wedi eu tendro (gan agor ac ail selio'r pecynnau sy'n cynnwys y papurau pleidleisio nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd a'r rhestr pleidleisiau wedi eu tendro) a rhaid iddo baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y gwirio, y caiff unrhyw arsylwr cyfrif ei gopïo.

8

Rhaid i'r swyddog cyfrif, cyn belled ag y bo'n ymarferol, barhau yn ddi-dor i gyfrif y pleidleisiau, gan ganiatáu amser i ffwrdd ar gyfer lluniaeth yn unig, ac eithrio y caniateir i'r swyddog cyfrif hepgor yr oriau rhwng 7 yr hwyr a 9 y bore drannoeth.

9

Yn ystod y cyfnod a hepgorir felly, rhaid i'r swyddog cyfrif—

a

osod y papurau pleidleisio a'r dogfennau eraill sydd a wnelont â'r refferendwm o dan sêl y swyddog cyfrif ei hunan; a

b

cymryd rhagofalon priodol fel arall i ddiogelu'r papurau a'r dogfennau.

Ailgyfrif37

1

Caiff trefnydd deiseb, os yw'n bresennol pan gwblheir y cyfrif neu unrhyw ailgyfrif o'r pleidleisiau, ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog cyfrif ailgyfrif y pleidleisiau neu eu hailgyfrif drachefn, ond caiff y swyddog cyfrif wrthod gwneud hynny os yw'r cais, ym marn y swyddog cyfrif, yn afresymol.

2

Rhaid peidio â chymryd unrhyw gam ar ôl cwblhau'r cyfrif neu unrhyw ailgyfrif o'r pleidleisiau cyn bo pa bynnag drefnwyr deiseb sy'n bresennol ar adeg y cwblhau wedi cael cyfle rhesymol i arfer yr hawl a roddir gan y rheol hon.

Papurau pleidleisio a wrthodir38

1

Mae unrhyw bapur pleidleisio—

a

nad yw'n dwyn y nod swyddogol, neu

b

y rhoddwyd pleidleisiau arno ar gyfer mwy nag un ateb, neu

c

sydd ag unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu ei farcio arno a fyddai'n caniatáu adnabod y pleidleisiwr neu ddirprwy, ac eithrio'r rhif printiedig a'r nod adnabod unigryw arall ar y cefn, neu

ch

sydd heb ei farcio neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd,

yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn ddi-rym, a rhaid peidio â'i gyfrif.

2

Pan fo pleidlais wedi ei marcio ar bapur pleidleisio—

a

mewn man gwahanol i'r man priodol, neu

b

mewn dull gwahanol i ddefnyddio croes, neu

c

gan ddefnyddio mwy nag un marc,

rhaid peidio â'i ystyried yn ddi-rym os oes bwriad yn ymddangos yn amlwg i bleidleisio dros un ateb neu'r llall, ac os nad yw'r modd y marciwyd y papur yn ei hunan yn datgelu pwy yw'r pleidleisiwr neu ddirprwy, ac os na ddangosir bod modd adnabod y pleidleisiwr neu ddirprwy oddi wrtho.

3

Rhaid i'r swyddog cyfrif arnodi'r gair “gwrthodwyd ”(“rejected”) ar unrhyw bapur pleidleisio nas cyfrifir oherwydd y rheol hon, a rhaid ychwanegu'r geiriau “gwrthwynebwyd ei wrthod” (“rejection objected to”) at yr arnodiad os bydd arsylwr cyfrif yn gwneud unrhyw wrthwynebiad i benderfyniad y swyddog cyfrif.

4

Rhaid i'r swyddog cyfrif baratoi datganiad sy'n dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y gwahanol benawdau—

a

diffyg nod swyddogol;

b

pleidleisio dros fwy nag un ateb;

c

ysgrifen neu farc a fyddai'n caniatáu adnabod y pleidleisiwr neu ddirprwy;

ch

dim marc neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

Penderfyniadau ynghylch papurau pleidleisio39

Mae penderfyniad y swyddog cyfrif ar unrhyw gwestiwn sy'n codi mewn perthynas â phapur pleidleisio yn derfynol, ond yn ddarostyngedig i'w adolygu drwy ddeiseb refferendwm.

Pleidleisiau cyfartal40

Os canfyddir, ar ôl gorffen cyfrif y pleidleisiau (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif) bod y pleidleisiau yn gyfartal rhwng yr atebion, rhaid i'r swyddog cyfrif benderfynu'r refferendwm yn ddi-oed drwy fwrw coelbren.

RHAN 7Cyhoeddi'r Canlyniad a Lleoli'r Dogfennau

Cyhoeddi'r canlyniad41

Pan fod canlyniad y bleidlais wedi ei ganfod rhaid i'r swyddog cyfrif wneud y canlynol yn ddi-oed—

a

cyhoeddi canlyniad y refferendwm,

b

rhoi gwybod i swyddog priodol yr awdurdod a gynhaliodd y refferendwm, neu y cynhaliwyd y refferendwm mewn perthynas ag ef, o ganlyniad y refferendwm,

c

rhoi hysbysiad cyhoeddus o—

i

ganlyniad y refferendwm,

ii

nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd,

iii

nifer cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd dros bob ateb, a

iv

nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd yn y datganiad o bapurau pleidleisio a wrthodwyd.

Selio'r papurau pleidleisio42

1

Ar ôl cwblhau'r cyfrif mewn refferendwm, rhaid i'r swyddog cyfrif selio'r papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd, mewn pecynnau ar wahân.

2

Rhaid i'r swyddog cyfrif beidio ag agor y pecynnau seliedig o—

a

papurau pleidleisio a oedd wedi eu tendro,

b

rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd,

c

tystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu

ch

copïau a farciwyd o'r gofrestr etholwyr (gan gynnwys y copïau a farciwyd o hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983) a rhestrau o ddirprwyon.

Trosglwyddo dogfennau i'r swyddog cofrestru perthnasol43

1

Rhaid i'r swyddog cyfrif wedyn anfon y dogfennau canlynol ymlaen at y swyddog cofrestru perthnasol—

a

y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog cyfrif,

b

y cyfriflenni papurau pleidleisio a'r datganiadau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd ac o ganlyniad gwirio'r cyfriflenni papurau pleidleisio,

c

y rhestrau o bleidleisiau sydd wedi eu tendro, y rhestrau o bleidleiswyr a dirprwyon ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion, y rhestrau o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu a'r datganiadau cysylltiedig, y rhestrau a wnaed o dan reol 32, a'r datganiadau a wnaed gan gymdeithion y pleidleiswyr a dirprwyon ag anableddau,

ch

y pecynnau o restrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd,

d

y pecynnau o dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, ac

dd

y pecynnau sy'n cynnwys copïau a farciwyd o'r cofrestrau (gan gynnwys unrhyw gopïau a farciwyd o hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983) ac o'r rhestr pleidleiswyr post, o'r rhestrau o ddirprwyon, ac o'r pleidleiswyr drwy'r post fel dirprwyon,

gan arnodi ar bob pecyn disgrifiad o'i gynnwys, dyddiad y refferendwm y mae'n ymwneud ag ef ac enw'r awdurdod lleol a gynhaliodd y refferendwm neu y cynhaliwyd y refferendwm mewn perthynas ag ef.

2

Yn y rheol hon ac yn rheolau 44 a 45 mae'r cyfeiriadau at y swyddog cofrestru perthnasol yn cyfeirio at swyddog cofrestru'r awdurdod lleol a gynhaliodd y refferendwm neu y cynhaliwyd y refferendwm mewn perthynas ag ef.

Gorchmynion i ddangos dogfennau44

1

Caiff llys sirol wneud gorchymyn—

a

ar gyfer archwilio neu ddangos unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, neu

b

ar gyfer agor pecyn seliedig o restrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu ar gyfer archwilio unrhyw bapurau pleidleisio a gyfrifwyd sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol,

os bodlonir y llys, gan dystiolaeth a roddir ar lw, bod y gorchymyn yn ofynnol at y diben o gychwyn neu gynnal erlyniad am dramgwydd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddiben deiseb refferendwm.

2

Caiff llys etholiad wneud gorchymyn ar gyfer agor pecyn seliedig o restrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu ar gyfer archwilio unrhyw bapurau pleidleisio a gyfrifwyd sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol.

3

Caiff y llys sy'n gwneud gorchymyn o dan y rheol hon wneud y gorchymyn yn ddarostyngedig i amodau o ran—

a

personau,

b

amser,

c

lleoliad a dull yr archwilio,

ch

dangos neu agor,

fel y gwêl y llys yn briodol.

4

Wrth wneud ac wrth weithredu gorchymyn ar gyfer agor pecyn o'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio, neu ar gyfer archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd, rhaid cymryd gofal i beidio â datgelu'r ffordd y pleidleisiodd unrhyw berson penodol hyd nes bo wedi ei brofi bod—

a

pleidlais y person wedi ei bwrw; a

b

bod y bleidlais wedi ei chyhoeddi gan lys cymwys yn bleidlais annilys.

5

Gwneir unrhyw apêl yn erbyn gorchymyn llys sirol o dan y rheol hon i'r Uchel Lys.

6

Caniateir i unrhyw bŵer a roddir o dan y rheol hon i lys sirol gael ei arfer gan unrhyw farnwr o'r llys mewn modd gwahanol i'w arfer mewn llys agored.

7

Pan wneir gorchymyn bod y swyddog cofrestru perthnasol yn dangos unrhyw ddogfen sydd yn ei feddiant mewn perthynas ag unrhyw refferendwm penodedig—

a

mae dangos, gan y swyddog cofrestru neu gan asiant y swyddog cofrestru, y ddogfen a orchmynnwyd, mewn modd sy'n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau yn y gorchymyn hwnnw, yn dystiolaeth derfynol bod y ddogfen yn ymwneud â'r refferendwm penodedig: a

b

mae unrhyw arnodiad ar unrhyw becyn o bapurau pleidleisio a ddangosir felly yn dystiolaeth prima facie mai'r papurau pleidleisio hynny yw'r rhai a ddatgenir yn yr arnodiad.

8

Mae dangos, ar ôl eu cadw yn briodol—

a

papur pleidleisio yr honnir iddo gael ei ddefnyddio mewn unrhyw refferendwm, a

b

rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio,

yn dystiolaeth prima facie mai'r person y bwriwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod yn y rhestr etholwyr neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, ar adeg y refferendwm yn cynnwys yr un rhif â'r rhif ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (b) o'r paragraff hwn.

9

Ac eithrio fel a ddarperir gan y rheol hon, ni chaniateir i unrhyw berson archwilio unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd, sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, nac agor unrhyw becynnau seiliedig o'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu dystysgrifau ynglŷn â chyflogaeth ar ddyletswydd ar ddiwrnod y pleidleisio.

Cadw dogfennau45

Rhaid i'r swyddog cofrestru perthnasol gadw am un flwyddyn yr holl ddogfennau mewn perthynas â refferendwm, a anfonwyd ymlaen at y swyddog cofrestru yn unol â'r Rheolau hyn gan swyddog cyfrif, ac yna, oni chyfarwyddir yn wahanol gan orchymyn o lys sirol, Llys y Goron, llys ynadon neu lys etholiad, rhaid iddo achosi iddynt gael eu dinistrio.

RHAN 8Atodiad o Ffurfiau

Noder:— Caniateir addasu'r ffurfiau a gynhwysir yn yr Atodiad hwn cyn belled ag y bo amgylchiadau'n ei gwneud yn ofynnol i wneud hynny

  • Ffurf y Papur Pleidleisio: Datganiad a Chwestiwn yn y refferendwm fel a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1

  • Ffurf y Papur Pleidleisio: Datganiad a Chwestiwn yn y refferendwm fel a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1

  • Ffurf y Papur Pleidleisio: Datganiad a Chwestiwn yn y refferendwm fel a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 1

  • Rhestr Rhifau Cyfatebol L1

  • Rhestr Rhifau Cyfatebol L2

  • Ffurf y Datganiad Pleidlais Bost

  • Cerdyn Pleidleisio Swyddogol (i'w anfon at bleidleisiwr sy'n pleidleisio yn bersonol)

  • Cerdyn Swyddogol Pleidlais Bost (i'w anfon at bleidleisiwr sy'n pleidleisio drwy'r post)

  • Cerdyn Swyddogol Pleidleisio drwy Ddirprwy (i'w anfon at ddirprwy penodedig sy'n pleidleisio yn bersonol)

  • Cerdyn Swyddogol Pleidlais Bost drwy Ddirprwy (i'w anfon at ddirprwy penodedig sy'n pleidleisio drwy'r post)

  • Ffurf y cyfarwyddiadau fel canllawiau i bleidleiswyr a dirprwyon wrth bleidleisio

  • Ffurf Tystysgrif Cyflogaeth

  • Ffurf y datganiad sydd i'w wneud gan gydymaith pleidleisiwr neu ddirprwy ag anableddau

Image_r00004

Image_r00005

Image_r00006

Image_r00007

Image_r00008

Image_r00009

Image_r00010

Image_r00011

Image_r00012

Image_r00013

Image_r00014

Image_r00015

Image_r00016

Image_r00017

Image_r00018

Image_r00019

Image_r00020

Image_r00021

Image_r00022

Image_r00023

Image_r00024

ATODLEN 4Cymhwyso, gydag Addasiadau, Deddfau ac Is-ddeddfwriaeth

Rheoliad 8

Dehongli1

1

Mae'r darpariaethau a nodir yng ngholofn gyntaf Tablau 1 i 5 yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

a

unrhyw addasiadau a grybwyllir yn ail golofn y Tablau hynny, a

b

onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yr addasiadau a grybwyllir yn is-baragraff (2).

2

Yr addasiadau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—

a

rhaid dehongli cyfeiriad at etholiad fel cyfeiriad at y refferendwm ;

b

rhaid dehongli cyfeiriad at swyddog canlyniadau fel cyfeiriad at y swyddog cyfrif;

c

rhaid dehongli cyfeiriad at etholaeth neu adran etholiadol fel cyfeiriad at ardal y bleidlais;

ch

rhaid dehongli cyfeiriad at bleidleisio dros ymgeisydd neu bleidlais dros ymgeisydd fel cyfeiriad at bleidleisio dros ateb, neu bleidlais dros ateb;

d

rhaid dehongli cyfeiriad at hyrwyddo neu beri ethol ymgeisydd, neu hybu ymgeisyddiaeth person, fel cyfeiriad at hyrwyddo neu beri canlyniad penodol yn y refferendwm;

dd

rhaid anwybyddu cyfeiriadau at bapurau enwebu ac anwybyddu cyfeiriadau at ymgeiswyr ac eithrio fel a grybwyllir yn is-baragraffau (ch) a (d);

e

rhaid dehongli cyfeiriad at ethol person fel cyfeiriad at ganlyniad penodol yn y refferendwm;

f

rhaid dehongli cyfeiriad at berson yn pleidleisio fel etholwr fel person yn pleidleisio ar ei ran ei hunan;

ff

rhaid dehongli cyfeiriad at a hawl person fel etholwr i gael pleidlais absennol fel cyfeiriad at hawl person i bleidleisio drwy'r post ar ei ran ei hunan neu drwy ddirprwy;

g

pan fo'n ofynnol gwneud unrhyw beth ym mhresenoldeb asiantwyr etholiad, asiantwyr cyfrif, asiantwyr pleidleisio neu asiantwyr eraill rhaid anwybyddu'r cyfeiriad at bresenoldeb asiantwyr;

ng

rhaid dehongli cyfeiriad i'r perwyl bod unrhyw beth wedi ei ragnodi fel cyfeiriad i'r perwyl y darparwyd ar ei gyfer gan ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a gymhwysir gan y Rheoliadau hyn;

h

ceir defnyddio ffurf y mae'n ofynnol ei defnyddio gyda pha bynnag amrywiadau ag y bo'n ofynnol o dan yr amgylchiadau;

i

mae cyfeiriad at y swyddog cofrestru, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yn gyfeiriad at y swyddog cofrestru perthnasol a benodwyd o dan adran 8 o Ddeddf 198332; ac at y diben o arfer swyddogaethau swyddog cofrestru mewn perthynas â'r refferendwm, mae adran 52(1) i (4)33 (cyflawni swyddogaethau cofrestru) ac adran 54(1), (3) a (4)34 (talu treuliau cofrestru) o'r Ddeddf honno yn effeithiol;

j

rhaid dehongli cyfeiriad at ddeiseb etholiad (“election petition”) fel cyfeiriad at ddeiseb refferendwm;

l

rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ddeddfiad neu offeryn a wnaed o dan ddeddfiad fel cyfeiriad at y deddfiad neu offeryn hwnnw fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn;

ll

rhaid anwybyddu cymaint o unrhyw ddarpariaeth ag sy'n gymwys yn unig o ran yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.

Tabl 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 198335

(1) Darpariaeth

(2) Addasiad

Adran 13B (newid cofrestrau: ar gyfer etholiadau sydd ar ddigwydd) 36

Ar ôl “election”, ym mhob lle, mewnosoder “or referendum”.

Ar ôl is-adran(4) rhodder—

4A

This section also applies to referendums.

Adran 31 (dosbarthau a gorsafoedd pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol)37

Yn is-adran (1A) yn lle “elections of county councillors” rhodder “referendums by or in respect of a county or county borough”.

Yn is-adran (3) yn lle “local government elections” rhodder “referendums”.

Adran 35(4) (penodiadau gan swyddogion canlyniadau)

Adran 36(4) a (6) (gwariant y swyddog canlyniadau mewn etholiad lleol)38 officer

Yn is-adran (4) yn lle'r geiriau o “by a returning officer” hyd at “London borough)” rhodder “by a counting for a voting area in relation to the holding of a referendum”.

Yn is-adran (6) yn lle'r geiriau o'r dechrau hyd at “councillor, the council” rhodder “Before a poll is taken at such a referendum as is referred to in subsection (4), the authority”.

Nid yw paragraff 1(2)(b) o'r Atodlen hon yn cael effaith mewn perthynas â'r cyfeiriad cyntaf yn is-adran (6) at y swyddog canlyniadau.

Adran 47 (benthyg cyfarpar ar gyfer etholiadau lleol)39

Yn is-adran (1) yn lle “the returning officer at a local government election” rhodder “the counting officer at a referendum”.

Yn is-adran (2)—

  1. a

    dileer y geiriau o “, or” ar ddiwedd paragraff (a) hyd at “as the case may be”;

  2. b

    yn lle “an election held under those Acts” rhodder “a referendum”.

Adran 49(4) a (5) (effaith cofrestrau)40

Yn is-adran (5) hepgorer “prevent the rejection of the vote on a scrutiny or”.

Adran 60 (cambersonadu)

Yn is-adran (2) hepgorer “parliamentary or”.

Adran 61 (tramgwyddau eraill sy'n ymwneud â phleidleisio)41

Yn is-adran (1) ar ôl “local government election” a “local government elections”, ym mhob lle, mewnosoder “or referendum” or “or referendums” yn eu trefn.

Yn lle is-adrannau (2) i (4) rhodder—

2

A person shall be guilty of an offence if—

a

that person votes on their own behalf otherwise than by proxy—

i

more than once in the same voting area,

ii

in more than one voting area, or

iii

in any voting area where there is in force an appointment of a person to vote as that person’s proxy in the referendum in another voting area, or

b

that person votes on their own behalf in person and is entitled to vote by post, or

c

that person votes on their own behalf in person knowing that a person appointed to vote as their proxy has already voted in person or is entitled to vote by post, or

d

that person applies for a person to be appointed as their proxy to vote for them without applying for the cancellation of a previous appointment of a third party then in force or without withdrawing a pending application for such an appointment.

3

A person shall be guilty of an offence if—

a

that person votes as proxy for the same person either—

i

more than once in the same voting area, or

ii

in more than one voting area, or

b

that person votes in person as proxy for a person and is entitled to vote by post as proxy for that person, or

c

that person votes in person as proxy for someone whom that person knows already to have voted in person.

4

A person shall also be guilty of an offence if that person votes as proxy in any voting area for more than two persons of whom that person is not the spouse, civil partner, parent, grandparent, brother, sister, child or grandchild.

Yn lle is-adran (6A) rhodder—

6A

A person is not guilty of an offence under subsection (2)(b) only by reason of that person having marked a tendered ballot paper in pursuance of rule 29 of the Local Government Act Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008.

Adran 62A (tramgwyddau mewn perthynas â cheisiadau am bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy)42

Yn is-adran (1)(a) ar ôl “election” mewnosoder “or referendum”.

Adran 63 (tor-ddyletswydd swyddogol)43

Yn is-adran (3) ar ôl “local government election” yn y ddau le mewnosoder “or referendum”.

Yn is-adran (4)(a) ar ôl “election” rhodder “or referendum”.

Adran 65 (ymyrryd â phapurau pleidleisio, etc.)44

Yn is-adran (1)—

  1. a

    ar ôl “election”, lle mae'n digwydd gyntaf, rhodder “or referendum”, a

  2. b

    hepgorer paragraff (a).

Yn is-adran (3) yn lle “clerk” rhodder “person”.

Adran 66 (gofyniad am gyfrinachedd)45

Yn lle is-adran (1)(b) rhodder—

b

every polling observer, so attending,

Adran 66A (gwahardd cyhoeddi polau ymadael)46

Yn is-adran (2) hepgorer yr “and” sy'n rhagflaenu paragraff (b) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

; and

c

any referendum

Adran 92 (darlledu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig)47

Yn is-adran (1) ar ôl “local government election” mewnosoder “or referendum”.

Adran 94 (cardiau pleidleisio ffug)48

Yn is-adran (2)—

  1. a

    ar ôl “section 36” mewnosoder “above, or regulations made under section 45 of the Local Government Act 2000”, a

  2. b

    ar ôl “the rules”, mewnosoder “or, as the case may be, the regulations”.

Adran 96 (ysgolion ac ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd etholiadau lleol)49

Yn lle is-adran (1) rhodder—

1

Subject to the provisions of this section, any person is entitled, for the purpose of holding a public meeting to promote a particular result in the referendum, to use free of charge at reasonable times during the campaign period any meeting room to which this section applies.

1A

In subsection (1), “the campaign period” means the period of 25 days ending with the day before the date of the referendum.

Hepgorer is-adran (2).

Yn is-adran (3)—

  1. a

    yn lle'r geiriau o “electoral area for which” hyd at “that electoral area” rhodder “voting area”, a

  2. b

    hepgorer paragraff (b).

Yn is-adran (4)—

  1. a

    hepgorer y geiriau “and paragraph 1(1) of Schedule 5 to this Act”,

  2. b

    ar ôl y geiriau “that section” mewnosoder “subject to the substitution in subsection (5) of that section, for the word “candidate” of the word “person”, ac

  3. c

    hepgorer y geiriau o “and any person” hyd y diwedd.

Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

5

The lists maintained by a county or county borough council of meeting rooms which candidates at a parliamentary election in any constituency are entitled to use shall have effect for the purposes of the referendum; and any person shall, before the referendum, be entitled at all reasonable hours to inspect those lists or a copy of them.

Adran 97 (terfysgoedd mewn cyfarfodydd etholiad)50

Yn lle is-adran (2) rhodder—

2

This section applies to a meeting in connection with a referendum held during the campaign period.

2A

In subsection (2) “the campaign period” means the period of 25 days ending with the day before the date of the referendum.

Adran 100(1) and (2) (canfasio anghyfreithlon gan swyddogion yr heddlu)51

Yn is-adran (1) Yn lle'r geiriau o “ from giving his vote” hyd y diwedd rhodder “from giving his vote in the referendum in a voting area wholly or partly within the police area”.

Adran 109 (taliadau am arddangos hysbysiadau etholiad)

Adran 110 (manylion sydd i ymddangos ar gyhoeddiadau etholiad)52

Adran 111 (gwahardd talu canfaswyr)

Adran 112 (darparu arian at ddibenion anghyfreithlon)

Adran 113 (llwgrwobrwyo)53

Adran 114 (tretio)

Adran 115 (dylanwad gormodol)54

Adran 116 (hawliau credydwyr)

Hepgorer paragraffau (b) ac (c).

Adran 118 (dehongli Rhan 2)55

Adran 119 (cyfrif amser at ddibenion Rhan 2)56

Yn is-adran (1)(b) ar ôl “disregarded” mewnosoder—

; and

c

in computing any period referred to in section 96(1A) or 97(2A), as applied for the purposes of a referendum, any of the days so mentioned shall be disregarded.

Adran 167 (cais am ryddhad)57

Adran 168 (erlyniadau am arferion llwgr)58

Adran 169 (erlyniadau am arferion anghyfreithlon)59

Adran 170 (collfarn am arfer anghyfreithlon ar gyhuddiad o arfer llwgr, etc.

Adran 173(1)(a)(i), (2) a (3) (analluoedd yn dilyn collfarn o arfer llwgr neu anghyfreithlon) 60

Yn is-adran (1)(a)(i) ar ôl “Great Britain” mewnosoder “or at any referendum”.

Adran 174 (lliniaru a dileu etc.)61

Adran 175 (taliadau anghyfreithlon etc.)62

Hepgorer is-adran (2).

Adran 176 (terfyn amser ar gyfer erlyniadau)

Adran 177 (treial diannod)

Yn lle “the local government Act” rhodder “the Local Authority (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Yn is-adran (1)(a) yn lle'r geiriau o “in the county” hyd at “adjoins”, rhodder “for the voting area in which the offence is alleged to have been committed”.

Adran 178 (erlyn am dramgwyddau a gyflawnir y tu allan i'r Deyrnas Unedig)63

Adran 179 (tramgwyddau gan gymdeithasau)

Adran 181(1) (Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus)64

Adran 185 (dehongli Rhan 3)65

Adran 199B (cyfieithiadau o ddogfennau penodol)66

Yn is-adrannau (1), (5) a (7) ar ôl “local government election” rhodder “or referendum”. Hepgorer is-adran (4)(a).

Adran 200(1A) and (2) (hysbysiadau cyhoeddus, a datganiadau)67

Adran 202 (dehongli)68

Tabl 2 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 200069

(1) Darpariaeth

(2) Addasiad

Adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr)70

Yn is-adran (2)—

  1. a

    ar ôl “Representation of the People Acts”, mewnosoder “or the Local Government Act 2000”, a

  2. b

    ym mharagraff (c) yn lle “candidates” rhodder “any campaign organiser within the meaning of regulation 6 of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Yn is-adran (3)—

  1. a

    ym mharagraff (b) yn lle “candidates” rhodder “campaign organisers”, a

  2. b

    yn lle “section 75(1) of the 1983 Act (restriction on third party election expenditure)” rhodder “regulation 6 of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Hepgorer is-adran (4).

Ar ddiwedd is-adran (7)(a) mewnosoder “or the Local Government Act 2000”.

Yn is-adran (11) yn lle'r geiriau ar ôl “means”, rhodder “a county or county borough council.”

Adran 12 (newidiadau mewn perthynas â phleidleisio absennol mewn etholiadau ym Mhrydain Fawr)

Yn is-adran (1) ar y diwedd mewnosoder “; and as regards referendums”.

Atodlen 4 (pleidleisio absennol ym Mhrydain Fawr)71

Ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “the appropriate rules” ar ddiwedd paragraff (b), mewnosoder—

, and

c

in the case of a referendum, the Local Government Act Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008

Ym mharagraffau 2 i 7, 7C a 7D, ac eithrio ym mharagraffau 3(1), 3(2), 3(4)(a)(i), 6(7), 7(4)(a) a 7(6)(a)(i), ar ôl “local government election”, “local government elections”, “elections” ac “election”, mewnosoder, fel y bo'r cyd-destun yn mynnu, “or a referendum”, “or referendums”, neu “or the referendum”.

Ym mharagraffau 3(1) a 3(2) yn lle “or at both” rhodder “or at referendums”.

Ym mharagraffau 3(4)(a)(i) a 7(6)(a)(i) yn lle “or both” rhodder “or referendums”.

Ym mharagraffau 6(7) a 7(4)(a) yn lle “or at both” rhodder “or at referendums”.

Tabl 3 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 200072

(1) Darpariaeth

(2) Addasiad

Adran 6A (presenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn mewn etholiadau etc.)

Ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

;

c

proceedings relating to a referendum under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008 which are the responsibility of the counting officer.

Adran 6B (arsylwi ar arferion gwaith gan gynrychiolwyr y Comisiwn)

Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

2A

A representative of the Commission may also observe the working practices of a counting officer at a referendum under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008, and any person acting under the counting officer’s direction.

Adran 6C (arsylwyr achrededig: unigolion)

Yn is-adran (1) ar ôl “applies” mewnosoder “or which is held under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Adran 6D (arsylwyr achrededig: sefydliadau)

Yn is-adran (1) ar ôl “applies” mewnosoder “or which is held under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Adran 6E (presenoldeb ac ymddygiad arsylwyr)

Yn lle is-adran (4)(c) rhodder—

c

in the case of any other proceedings at a referendum to which Part 7 applies, the relevant counting officer (within the meaning of section 6A);

ca

in the case of any other proceedings at a referendum under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008, the counting officer;

Yn is-adran (4) yn lle “or (c)” rhodder “, (c) or (ca)”.

Tabl 4 Deddf Gweinyddu Etholiadau 200673

(1) Darpariaeth

(2) Addasiad

Adran 42 (mynediad at ddogfennau etholiad eraill)

Adran 43 (mynediad at ddogfennau etholiad eraill: torri rheoliadau)

Yn is-adran (1)(a) ar ôl “section 42” mewnosoder “as applied by the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Adran 44 (mynediad at ddogfennau etholiad eraill: atodol)

Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau o “election documents” hyd at “Northern Ireland)” rhodder “referendum documents are such documents relating to a referendum”.

Ar ôl is-adran (7)(e) mewnosoder—

;

f

in relation to a referendum, a voting area within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008.

Adran 46 (swyddogion canlyniadau: cywiro gwallau gweithdrefnol)

Ar ôl is-adran (3)(b) mewosoder—

;

c

a referendum.

Hepgorer is-adran (6).

Adran 69 (annog cyfranogi etholiadol)

Ar ôl is-adran (8)(b) mewnosoder—

;

c

a counting officer at a referendum.

Tabl 5 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 200174

(1) Darpariaeth

(2) Addasiad

Rheoliad 3 (dehongli)75

Ar ddiwedd paragraff (2)(b) mewnosoder—

, or

c

in the case of a referendum, the corresponding rule in the Local Government Act Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008.

Rheoliad 4(1)(b) (ffurfiau) ac, i'r graddau â Ffurflen E yn Atodlen 3, (2)

Rheoliad 5 (cyfathrebu ceisiadau, hysbysiadau, etc.)76

Rheoliad 6 (llofnodion electronig a thystysgrifau cysylltiedig)77

Rheoliad 7 (copïau o ddogfennau)78

Rheoliad 8 (amser)79

Rheoliad 11 (ymyrryd â hysbysiadau)

Rheoliad 50 (dehongli Rhan 4)80

Rheoliad 51 (gofynion cyffredinol ar gyfer pleidlais absennol)81

Yn lle paragraff (4)(b) rhodder—

b

whether it is made for all or any of parliamentary elections, local government elections or referendums.

Ym mharagraff (5)—

  1. a

    ar ôl “election”, ym mhob lle, mewnosoder “or referendum”, a

  2. b

    hepgorer “elections”.

Rheoliad 51A (darpariaeth ychwanegol ynglŷn â'r gofyniad bod rhaid i gais am bleidlais absennol gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd)82

Rheoliad 51AA (gofyniad ychwanegol ar gyfer ceisiadau i bapurau pleidleisio gael eu hanfon i gyfeiriad gwahanol i'r un a nodir yn y cais)83

Rheoliad 51B (gofyniad ychwanegol ar gyfer ceisiadau i bapurau pleidleisio gael eu hanfon i gyfeiriad gwahanol i'r un a ddangosir yn y cofnod a gadwyd o dan baragraff 3(4) neu 7(6) o Atodlen 4)84

Rheoliad 52 (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau i benodi dirprwy)

Rheoliad 55 (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn perthynas ag etholiad penodol )85

Rheoliad 56 (dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau)86

Ym mharagraffau (1) i (5) a (7)(b) ar ôl “election”, ym mhob lle, mewnosoder “or referendum”.

Rheoliad 57 (caniatáu neu wrthod ceisiadau)87

Ym mharagraff (5) ar ôl “election” mewnosoder “or referendum”.

Rheoliad 58 (hysbysiad o apêl)

Rheoliad 59 (canslo penodiad dirprwy)

Rheoliad 61B (cofnod dulliau adnabod personol) 88

Ym mharagraff (3)(a) yn lle “any candidate or agent” rhodder “those”.

Rheoliad 62 (cofrestr a farciwyd ar gyfer gorsafoedd pleidleisio)89

Rheoliad 64 (dehongli Rhan 5)90

Hepgorer y diffiniad o “agent”.

Rheoliad 66 (ffurf y datganiad pleidlais bost)

Hepgorer paragraff (a).

Rheoliad 67 (personau sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gweithrediadau pan ddyroddir papurau pleidlais bost)91

Rheoliad 68 (personau sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gweithrediadau pan dderbynnir papurau pleidlais bost)92

Pan nad yw'r gweithrediadau ar gyfer pan ddyroddir pleidleisiau post a phan ddeuant i law yn cael eu cynnal ar y cyd rhwng rhagor nag un pôl yn unol â rheoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn:

Yn lle paragraffau (a) i (d) rhodder:

a

the counting officer and his clerks,

b

persons who by virtue of rule 35(2)(a) to (e) of the Local Government Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendum) (Wales) Regulations 2008 are entitled to attend at the counting of the votes.

Rheoliad 69 (asiantau ymgeiswyr y caniateir iddynt fod yn bresennol mewn gweithrediadau pan dderbynnir papurau pleidlais bost )

Ym mharagraff (8) yn lle “candidates or their agents” rhodder “persons entitled to be present by virtue of regulation 68”.

Pan nad yw'r gweithrediadau ar gyfer pan ddyroddir pleidleisiau post a phan ddeuant i law yn cael eu cynnal ar y cyd rhwng rhagor nag un pôl yn unol â rheoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn:

Hepgorer paragraffau (1) i (7).

Rheoliad 70 (hysbysu'r gofyniad am gyfrinachedd)

Rheoliad 71 (amser pan ddyroddir papurau pleidlais bost)

Rheoliad 72 (y weithdrefn pan ddyroddir papur pleidlais bost)93

Rheoliad 73 (gwrthod dyroddi papur pleidlais bost)94

Rheoliad 74 (amlenni)95

Rheoliad 75 (selio'r rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, a diogelwch y rhestrau arbennig)96

Rheoliad 76 (Danfon allan y papurau pleidlais bost)

Rheoliad 77 (papurau pleidlais bost a ddifethir)97

Rheoliad 78 (papurau pleidlais bost a gollir)98

Rheoliad 79(3) i (5) (dulliau amgen o ddychwelyd y papurau pleidlais bost neu'r datganiad pleidlais bost)99

Ym mharagraff (5) yn lle “polling agents” rhodder “polling observers (if any)”.

Rheoliad 80 (hysbysiad o agor amlenni papurau pleidlais bost)

Pan nad yw'r gweithrediadau ar gyfer pan ddyroddir pleidleisiau post a phan ddeuant i law yn cael eu cynnal ar y cyd rhwng rhagor nag un pôl yn unol â rheoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn:

Ym mharagraff (1) yn lle “each candidate” rhodder “those persons who by virtue of rule 35(2)(a) to (e) of the Local Government Act Referendums Rules within the meaning of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008 are entitled to attend at the counting of the votes”.

Hepgorer paragraff (2)(b).

Rheoliad 81 (blychau a chynwysyddion pleidleisiau post)100

Ym mharagraffau (3) a (4) yn lle “the agents” rhodder “those”.

Rheoliad 82 (derbyn y prif amlenni)

Rheoliad 83 (agor blwch pleidleisio y pleidleiswyr drwy'r post)

Ym mharagraff (1) yn lle “the agents” rhodder “such of those who are entitled to attend as are present”.

Rheoliad 84 (agor y prif amlenni)101

Rheoliad 84A (cadarnhau bod y datganiadau pleidlais bost wedi dod i law)102

Rheoliad 85 (gweithdrefn mewn perthynas â datganiadau pleidlais bost)103

Ym mharagraff (3) yn lle “agents” rhodder “counting observers or agents or both (as the case may be)”.

Rheoliad 85A (gweithdrefn mewn perthynas â datganiadau pleidlais bost: gwirio'r moddion adnabod personol)104

Ym mharagraff (4) yn lle “agents” rhodder “counting observers or agents or both (as the case may be)”.

Rheoliad 85B (Datganiadau Pleidlais Bost: gwirio moddion adnabod personol ychwanegol)105

Ym mharagraffau (3)(a) ac (c) a (4) yn lle“agents” rhodder “counting observers or agents or both (as the case may be)”.

Rheoliad 86 (agor yr amlenni papurau pleidleisio)

Rheoliad 86A (adfer y papurau pleidlais bost sydd wedi eu canslo)106

Ym mharagraff (2)(b) ac (f) yn lle “agents” rhodder “counting observers or agents or both (as the case may be)”.

Rheoliad 87 (rhestrau o'r papurau pleidlais bost a wrthodwyd)

Rheoliad 88 (gwirio'r rhestrau a gedwir o dan reoliad 87)

Rheoliad 89 (selio cynwysyddion)107

Rheoliad 91 (anfon dogfennau ymlaen)108

Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

2A

In the case of a referendum, the documents to be forwarded under paragraph (1) are to be forwarded to the registration officer of the local authority by or in respect of which the referendum is held.

Rheoliad 116 (dehongli Rhan 7)109

Rheoliad 118 (archwilio dogfennau sy'n agored i'w harchwilio gan y cyhoedd)110

Rheoliad 119 (amodau ar ddefnyddio, cyflenwi a datgelu dogfennau sy'n agored i'w harchwilio gan y cyhoedd)111

Yn Atodlen 3, Ffurf E112

Yn lle “REPRESENTATION OF THE PEOPLE ACTS” rhodder “*[[insert name of council] REFERENDUM]”.

Hepgorer “Constituency” a “Polling District”.

Yn lle “European Parliamentary electoral region” rhodder “Referendum voting area …”.

Yn lle'r geiriau o “*[who qualifies” hyd at “electoral region]]”, rhodder “to vote for that person at the referendum on (insert date)”.

Hepgorer “*This proxy appointment is not valid until…]” a “*[This proxy appointment remains valid until…]”.

Yn lle paragraff 2 o'r nodyn rhodder—

2

Your appointment as proxy will be for the referendum only. You have the right to vote as proxy only at the referendum specified in the proxy paper.

ATODLEN 5Cymhwyso, gydag addasiadau pellach, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 mewn perthynas â Deisebau Refferendwm

Rheoliad 11

(1) Darpariaeth

(2) Addasiadau pellach

Adran 128 (cyflwyno deiseb sy'n cwestiynu etholiad lleol)113

Yn is-adran (1)—

  1. a

    yn lle “under the local government Act” rhodder “under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”, a

  2. b

    hepgorer “either” a'r geiriau o “, or by a person” hyd y diwedd.

Yn is-adran (2), yn lle'r geiriau o'r dechrau hyd at “any” rhodder “Any”.

Adran 129 (amser ar gyfer cyflwyno neu ddiwygio deiseb sy'n cwestiynu etholiad lleol)

Yn is-adran (1) yn lle “under the local government Act” rhodder “under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Yn is-adran (2)(b) yn lle “a candidate elected at the election” rhodder “any person”.

Yn is-adran (3)(b) yn lle “the candidate elected at the election, or by an agent of the candidate or with the privity of the candidate or his election agent” rhodder “any person”.

Hepgorer is-adrannau (4) a (5).

Yn lle is-adran (7) rhodder—

7

Subsections (3) and (6) apply notwithstanding that the act constituting the alleged illegal practice amounted to a corrupt practice.

Hepgorer is-adran (9).

Adran 130 (llys etholiad ar gyfer etholiad lleol yng Nghymru a Lloegr, a man cynnal prawf )114

Yn is-adran (1) yn lle “in England and Wales under the local government Act” rhodder “in Wales under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Yn is-adran (3)(a) yn lle “in England and Wales under the local government Act” rhodder “in Wales under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Adran 131 (llety ar gyfer y llys a phresenoldeb yn y llys)

Adran 132 (tâl a lwfansau)

Adran 133 (ad-daliadau o dan adrannau 131 a 132)

Adran 136 (sicrwydd ar gyfer costau)115

Yn is-adran (2)(b) yn lle “petition questioning an election under the local government Act” rhodder “referendum petition within the meaning of regulation 11 of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”.

Adran 137 (deiseb yn bwnc dadl)116

Adran 138 (rhestr o ddeisebau)117

Yn is-adran (1)(a) yn lle “all election petitions” rhodder “all referendum petitions within the meaning of regulation 11 of the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008.

Yn is-adran (3) yn lle'r geiriau o'r dechrau hyd at “candidates” rhodder “Two or more persons”.

Yn is-adran (4)—

  1. a

    yn lle “the same election or to elections under the local government Act” rhodder “the same referendum or referendums under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008”, a

  2. b

    yn lle “the election list”, yn y ddau le, rhodder “the list made out under subsection (1)”.

Adran 139 (profi deiseb)

Yn is-adran (1) hepgorer “, in the case of a parliamentary election petition, 14 days and in any other case,”.

Hepgorer is-adran (3).

Yn lle is-adran (5) rhodder—

5

On the trial of a petition, the respondent may give evidence in the same manner as if he had presented a petition against the referendum.

Yn lle is-adran (6) rhodder—

6

Where the petition relates to a referendum as regards which, by reason of an equality of votes found at the count, the result was determined by lot, that determination is to be effective also for the purposes of the petition unless subsection (6A) applies.

6A

This subsection applies where the court disallows any vote cast in the referendum; and in any such case—

a

the determination referred to in subsection (6) is to have no effect, and

b

the court is to declare the result of the referendum.

6B

Where—

a

the petition relates to a referendum at which no equality of votes was found at the count, and

b

the court—

i

disallows any vote cast in the referendum, and

ii

determines that an equality of votes was cast in the referendum,

the result of the referendum is to be determined by the court by lot.

Adran 140 (tystion)118

Adran 141 (dyletswydd i ateb cwestiynau perthnasol)119

Adran 143 (treuliau tystion)

Adran 145 (cau treial deiseb etholiad lleol)120

Yn lle is-adran (1) rhodder—

1

At the conclusion of the trial of a petition questioning a referendum under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008 the election court is to determine—

a

in the case of a petition presented on the ground mentioned in regulation 11(1)(a) of those Regulations, whether the result of the referendum was or was not in accordance with the votes cast in the referendum,

b

in the case of a petition presented on the ground mentioned in regulation 11(1)(b) or (c) of those Regulations, whether the referendum was void.

1A

Following a determination under subsection (1)(a), the election court must, as the circumstances require, confirm or reverse the result of the referendum.

Yn is-adran (3)—

  1. a

    yn lle “sections 158 and” rhodder “section”, a

  2. b

    yn lle'r geiriau o “for which” hyd y diwedd rhodder “by which or in respect of which the referendum was held”.

Yn is-adran (6) yn lle “for which the election was held” rhodder “by which or in respect of which the referendum was held”.

Adran 146 (achos arbennig i'w benderfynu gan yr Uchel Lys)

Hepgorer is-adran (2).

Yn is-adran (3) yn lle'r geiriau o'r dechrau hyd at “local government Act” rhodder—

3

In the case of a referendum petition under the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008,

Adran 147 (tynnu deiseb yn ôl)

Adran 154 (costau deiseb)

Adran 155 (esgeuluso neu wrthod talu costau)

Adran 156 (darpariaeth bellach ynghylch costau)121

Adran 157 (apeliadau ac awdurdodaeth)122

Hepgorer is-adran (4).

Adran 160(1) a (3) (personau yr adroddir eu bod yn euog yn bersonol o arferion llwgr)123

Hepgorer is-adran (1)(b).

Adran 161 (Ynadon Heddwch)124

Adran 162 (aelod o'r proffesiwn cyfreithiol a phroffesiynau penodol eraill)125

Adran 163 (deiliad trwydded neu dystysgrif o dan y Deddfau Trwyddedu)126

Adran 164(1) and (2) (dirymu etholiad oherwydd llygredd cyffredinol etc.)

Yn is-adran (1)—

  1. a

    yn lle “election”, yn y ddau le cyntaf y mae'r gair hwnnw yn ymddangos, rhodder “referendum”,

  2. b

    yn lle “the election of any person at that election” rhodder “a particular outcome in relation to the question asked in the referendum”, ac

  3. c

    ym mharagraffau (a) a (b) mewnosoder “, the referendum, if that outcome was achieved, is void”.

Yn is-adran (2) yn lle “An election” rhodder “A referendum”.

Adran 167 (cais am ryddhad)127

Adran 180 (tystiolaeth drwy dystysgrif o gynnal etholiad)

Hepgorer is-baragraff (ii) a'r gair yn union o'i flaen.

Adran 183 (costau)128

Adran 184 (cyflwyno hysbysiadau)129

Adran 185 (dehongli Rhan 3)130

ATODLEN 6Addasiadau i'r Rheolau Deisebau Etholiadau 1960

Rheoliad 11

(1) darpariaeth a addesir

(2) Addasiad

Rheol 2(2)131

Ar ôl y diffiniad o “the Act” mewnosoder—

  • “the 2008 Regulations” means the Local Authorities (Conduct of Referendums) (Wales) Regulations 2008;

Ar ôl y diffiniad o “local election petition” mewnosoder—

  • “referendum petition” means a petition under the 2008 Regulations;

Yn y diffiniad o “petition” ar y diwedd mewnosoder “or a referendum petition”.

Yn lle'r diffiniad o “constituency” rhodder—

  • “constituency” in relation to—

    1. a

      a local election petition, means the local government area to which the petition relates;

    2. b

      a referendum petition, means the local government area in which the referendum is held;

Ar ôl y diffiniad o “returning officer” mewnosoder “and, in relation to a referendum petition, any reference to a provision of the Act must be construed as a reference to that provision as applied by the 2008 Regulations.”

Rheol 2(3)132

Ar ôl “local government Act” mewnosoder “and referendums under the 2008 Regulations”.

Rheol 4(1)133

Hepgorer is-baragraff (a).

Yn lle is-baragraff (b) rhodder—

b

the date and result of the referendum to which the petition relates;

Yn is-baragraff (c) yn lle'r geiriau o “petition” hyd at “the Act” rhodder “referendum petition”.

Rheol 10134

Hepgorer.

Rheol 12(3)135

Yn lle “the election” rhodder “the referendum”.

Rheol 14(2)136

Yn lle “the election may” rhodder “the referendum may”.

Rheol 16(3)137

Yn lle “the election may” rhodder “the referendum may”.

Rheol 18138

Ar ôl “local election petition” mewnosoder “or a referendum petition”.

Yr Atodlen139

Yn lle “a Parliamentary (or Local Government) Election for (state place) …” rhodder “a referendum in (state area)”.

Ym mharagraff 1—

  1. a

    yn lle “election”, yn y man cyntaf y mae'r gair hwnnw yn digwydd, rhodder “referendum”,

  2. b

    hepgorer “(or was a candidate at the above election) (or in the case of a parliamentary election claims to have had a right to be elected or returned at the above election)”.

Yn lle paragraff 2 rhodder—

2

That referendum was held on the [insert day] day of [insert month] [insert year]

Ym mharagraff 4 hepgorer “in the case of a petition mentioned in section 122(2) or (3) or”.

Yn lle paragraff (1) o'r Deisyfiad rhodder—

1

That it may be determined [that the result of the referendum was not in accordance with the votes cast]* [that the referendum is avoided]* [that the referendum is tainted as mentioned in regulation 13(3) of the 2008 Regulations]*.

  • * Include or omit as the circumstances require