2008 Rhif 1896 (Cy.180)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Abertawe) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 20041 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru2.

Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn hwn:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Abertawe) 2008 a daw i rym ar 1 Medi 2008.

Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig2

Mae Gweinidogion Cymru'n dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—

a

ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a

b

ardal gorfodi arbennig.

Ieuan Wyn JonesY Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

YR ATODLENArdal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig

Erthygl 2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o ddinas a sir Abertawe ac eithrio y darn o Draffordd yr M4 a'i ffyrdd ymuno ac ymadael sydd o fewn y ddinas a'r sir a'r A483 Fabian Way o'i chyffordd â'r A4067 hyd at y ffin â bwrdeistref sirol Castell-Nedd Port Talbot.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Deddf Rheoli Traffig 2004.