Mae adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru gynnwys cwricwlwm sylfaenol. Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Gorchymyn yn diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu gofynion pellach.
Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir o dan is-adran (3), yn diwygio'r gofynion i ddarparu addysg gysylltiedig â gwaith (a ychwanegwyd at y cwricwlwm sylfaenol gan Orchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/932 (Cy.122))) drwy ymestyn yr amrediad oed er mwyn iddo fod hefyd yn gymwys i'r disgyblion hynny sydd yn y trydydd cyfnod allweddol.
O ran y cyfnodau allweddol cyntaf, ail a thrydedd o addysg disgybl, mae Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y pynciau craidd a phynciau sylfaen eraill a bennir yn adran 105 o Ddeddf Addysg 2002. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r pynciau sylfaen eraill hynny.
Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn hepgor y pynciau “technoleg” a “celfyddyd” ac yn gosod yn eu lle “technoleg gwybodaeth a chyfathrebu”, “dylunio a thechnoleg” a “celfyddyd a dylunio”.