xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “claf” (“patient”) yw person y darperir gwasanaethau deintyddol iddo;
ystyr “cofrestr deintyddion” (“dentists register”) yw'r gofrestr y cyfeirir ati yn adran 14(1) o'r Ddeddf Deintyddion 1984;
ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person a gofrestrwyd o dan Ddeddf Deintyddion 1984;
ystyr “deintyddiaeth breifat” (“private dentistry”) yw gwasanaethau deintyddol a ddarperir heb fod at ddibenion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gŵyl San Steffan, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1).
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “gwasanaethau deintyddol” (“dental services”) yw unrhyw drinaeth ddeintyddol a ddarperir gan ddeintydd;
ystyr “gwasanaethau deintyddol preifat” (“private dental services”) yw gwasanaethau deintyddol na ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2);
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person a gofrestrwyd yn ddarparydd gwasanaethau deintyddol;
ystyr “rhestr o ymarferwyr AEE sy'n ymweld” (“list of visiting EEA practitioners”) yw'r rhestr a lunnir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o ymarferwyr AEE sy'n ymweld ac sy'n gweithio ar sail dros dro ac ar sail achlysurol;
ystyr “rhestr perfformwyr deintyddol” (“dental performers list”) yw'r rhestr a luniwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004(3) neu reoliad 3(1)(b) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) 2004(4) fel y bo'n briodol;
ystyr “rhif cofrestriad proffesiynol” (“professional registration number”) yw'r rhif gyferbyn ag enw'r person yn y gofrestr deintyddion;
ystyr “swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru” (“appropriate office of the registration authority”) o ran darparydd gwasanaethau deintyddol yw—
os cafodd swyddfa awdurdod cofrestru ei phennu o dan reoliad 20, y swyddfa honno; neu
mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd yr awdurdod cofrestru;
ystyr “yswiriant” (“insurance”) yw—
contract yswiriant sy'n darparu gwarchodaeth dros rwymedigaethau y gellir eu creu wrth gyflawni gwaith deintydd neu waith technegwr deintyddol clinigol, neu
trefniant a wneir er mwyn indemnio person rhag rhwymedigaethau o'r fath;
rhaid dehongli “y weithdrefn gwynion” (“complaints procedure”) yn unol â rheoliad 15.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad—
(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad ar y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu yn yr Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(c)mewn paragraff at lythyren neu is-baragraff â rhif yn gyfeiriad ar yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw neu'r llythyren honno.
(3) Yn Atodlen 1, mae cyfeiriad at Ran II o'r Ddeddf yn gyfeiriad at Ran II o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir gan reoliad 3 ac Atodlen 1.
3.—(1) Mae deintydd sy'n darparu unrhyw wasanaethau deintyddol heb fod yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 drwy hyn yn rhagnodedig at ddibenion adran 42(1) o'r Ddeddf.
(2) Mae Rhan II o'r Ddeddf yn gymwys i bersonau a ragnodir ym mharagraff (1) yn unol ag Atodlen 1 ac yn unol â'r addasiad a bennir yn rheoliad 4.
4. Bydd adran 28(1) yn effeithiol fel petai'n darllen:
“A certificate of registration issued under this Part in respect of a person who provides private dental services must be kept affixed in a conspicuous place where such services are provided.”