- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
5.—(1) Rhaid i gais am gofrestru—
(a)bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;
(b)cael ei anfon neu ei draddodi i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;
(c)cael ffotograff diweddar o'r ceisydd gyda'r cais, a rhaid i'r ffotograff ddangos tebygrwydd gwirioneddol ohono;
(ch)rhoi'r wybodaeth neu roi gyda'r cais yr wybodaeth y mae'n ofynnol i'r ceisydd ei darparu yn unol â pharagraff (2), (3) neu (4); a
(d)anfon ffi o £50 gyda'r cais ynglŷn â phob ceisydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) rhaid i berson sy'n ceisio cael ei gofrestru fel person sy'n darparu gwasanaethau deintyddol yn breifat roi i'r awdurdod cofrestru'r wybodaeth lawn a restrir yn is-baragraffau (a) i (ng) ac (i) —
(a)enw llawn y ceisydd, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a rhif ffôn a chyfeiriad (a all fod yn gyfeiriad cartref) lle y gall cleifion ddod i gysylltiad â'r deintydd;
(b)manylion cronolegol profiad proffesiynol y ceisydd, cyn graddio ac ar ôl graddio, i'r graddau y maent yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau deintyddol gan gynnwys cyfnodau o hunangyflogaeth, y dyddiadau pan oedd yn dal pob swydd, y rheswm dros adael pob swydd ac esboniad am unrhyw fwlch rhwng swyddi;
(c)enw a chyfeiriad dau ganolwr—
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd;
(ii)y mae'r ddau'n gallu darparu geirda o ran cymhwysedd y ceisydd i ddarparu gwasanaethau deintyddol; a
(iii)y mae'r ddau'n gallu darparu geirda sy'n ymwneud â chyfnod diweddar o gyflogaeth neu swydd am o leiaf 3 mis;
ond o ran pob canolwr pan fo'r awdurdod cofrestru wedi'i fodloni nad yw'n ymarferol i gael geirda gan berson sy'n bodloni'r gofyniad yn is-baragraff (iii), rhaid rhoi esboniad llawn ac enw a chyfeiriad canolwr arall nad yw'n bodloni'r gofynion hynny;
(ch)datganiad ei fod naill ai ar gofrestr y deintyddion neu ar restr yr ymarferwyr AEE sy'n ymweld;
(d)naill ai ei rif cofrestriad proffesiynol a dyddiad y cofrestriad cyntaf neu Dystysgrif Deintydd AEE sy'n ymweld;
(dd)tystysgrif yswiriant ar gyfer y ceisydd mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth y mae'n bosibl i'r ceisydd fynd iddi mewn perthynas â darparu gwasanaethau deintyddol o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd i'r cyhoedd, difrod neu unrhyw golled arall;
(e)ei gymwysterau proffesiynol a lle y'u cafwyd, gyda thystiolaeth ynghylch ei gymwysterau a'i brofiad;
(f)tystysgrif geni'r ceisydd neu, os ganwyd y ceisydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ei basbort;
(ff)os nad yw'r ceisydd yn wladolyn gwladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, tystiolaeth o hyfedredd y ceisydd mewn Saesneg at lefel sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol;
(g)tystysgrif record droseddol fanwl —
(i)a ddyroddwyd o dan adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997(1); a
(ii)y cydlofnodwyd y cais amdani gan yr awdurdod cofrestru;
(ng)datganiad gan y ceisydd ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn ac y bydd yn parhau i gydymffurfio â hwy o ran darparu gwasanaethau deintyddol;
(h)datganiad gan y ceisydd ei fod yn gyfredol ar restr perfformwyr deintyddol ac enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol a gyhoeddodd y rhestr honno;
(i)manylion unrhyw amod a osodwyd ar ei gofrestriad proffesiynol neu wrth ei gynnwys ar restr perfformwyr deintyddol.
(3) Rhaid i berson sy'n ceisio cael ei gofrestru'n berson sy'n darparu gwasanaethau deintyddol yn breifat ac sydd yn gyfredol ar restr perfformwyr deintyddol GIG ddarparu i'r awdurdod cofrestru'r wybodaeth lawn a restrir ym mharagraffau (a), (ng), (h) ac (i).
(4) Rhaid i berson syn dod o fewn paragraff (3) ond na chafwyd tystysgrif record droseddol fanwl arno o ran ei gynnwys ar y rhestr perfformwyr deintyddol honno hefyd roi'r wybodaeth a restrir yn (g).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: