- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
mae i “addysg feithrin” yr ystyr a roddir i “nursery education” o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1);
mae i “addysg gynradd” yr ystyr a roddir i “primary education” gan adran 2(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “ceisydd” (“claimant”) yw sefydliad addysgol cymwys neu awdurdod addysg lleol neu unrhyw gyflenwydd neu gymdeithas sy'n ceisio cymorth Cymunedol neu gymorth gwladol mewn perthynas â chynhyrchion llaeth cymwys ar ran sefydliad addysgol cymwys neu awdurdod addysg lleol;
ystyr “cost cyflenwi” (“cost of supply”) mewn perthynas â chynhyrchion llaeth cymwys yw cost eu prynu ac yn ychwanegol swm y mae'n Gweinidogion Cymru yn rhesymol ystyried ei fod yn ddigonol i dalu costau caffael a gweinyddu cyflenwi'r cynhyrchion llaeth hynny;
ystyr “y costau gweddillol” (“the residual costs”) yw'r costau cyflenwi, a dynnir gan brynwr mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i sefydliad addysgol cymwys, llai unrhyw gymorth Cymunedol a chymorth gwladol a all gael ei roi mewn perthynas â'r cyflenwi hwnnw;
mae i “cyfnod allweddol 2” yr ystyr a roddir i “ ey stage 2” gan adran 355 o Ddeddf 1996;
ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth Cymunedol a roddwyd yn unol ag Erthygl 102(1) o Reoliad y Cyngor ac yn unol â Rheoliad y Comisiwn;
ystyr “cymorth gwladol” (“national aid”) yw cymorth a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 102(2) o Reoliad y Cyngor;
ystyr “cynhyrchion llaeth cymwys” (“qualifying mil products”) yw'r llaeth a'r cynhyrchion llaeth a restrir yn Atodiad 1 i Reoliad y Comisiwn fel cynhyrchion sy'n gymwys ar gyfer cymorth Cymunedol;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);
ystyr “disgyblion cymwys” (“eligible pupils”) yw disgyblion sy'n derbyn addysg gynradd heblaw'r rhai sydd yng nghyfnod allweddol 2 neu'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin;
ystyr “y rheolau Cymunedol” (“the Community rules”) yw'r rheolau ynghylch darparu llaeth a chynhyrchion llaeth cymorthdaledig i ddisgyblion sy'n mynychu sefydliadau addysgol, a osodir gan Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1234/2007 ynghylch cymorth Cymunedol am gyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol(3), fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n ymwneud â threfniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac ar ddarpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (Rheoliad Sengl CMO)(4) fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd;
ystyr “sefydliad addysgol cymwys” (“qualifying educational establishment”) yw sefydliad addysgol y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn; ac
ystyr “yr hyn sy'n gyfwerth â llaeth” (“mil equivalent”) yw'r swm a bennir yn Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn fel swm sy'n cynrychioli'r cynnwys sy'n gyfwerth â llaeth mewn cynhyrchion llaeth penodol.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 183, 11.07.08, t.17
OJ Rhif L 299, 16.11.07, t.1; a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 361/2008 (OJ Rhif L 121, 7.05.08, t.1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: