Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “AGCLl” (“LSSA”) yw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru;
ystyr “AGCLl sy'n cymeradwyo” (“approving LSSA”) yw'r AGCLl sydd wedi cymeradwyo'r person i fod yn GPIMC;
ac eithrio yng nghyd-destun rheoliad 3, mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) yn cynnwys “ail gymeradwyo” (“re-approve”) ac “ail gymeradwyaeth” (“re-approval”);
ystyr “cymwyseddau perthnasol” (“relevant competencies”) yw'r sgiliau a nodir yn Atodlen 2;
- mae i “Cyngor Gofal Cymru” yr ystyr a roddir i “Care Council for Wales” gan adran 54(1) o Ddeddf Safonau Gofal 20002;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;
ystyr “gofynion proffesiynol” (“professional requirements”) yw'r gofynion a geir yn Atodlen 1;
ystyr “GPIMC” (“AMHP”) yw gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy.
Rhoi cymeradwyaeth3.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y caiff AGCLl roi cymeradwyaeth i berson i fod yn GPIMC, os nad yw'r person hwnnw eisoes wedi ei gymeradwyo'n AGCLl o dan y Rheoliadau hyn, neu os nad yw wedi ei gymeradwyo felly o fewn y pum mlynedd flaenorol,—
(a)
os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol;
(b)
os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol; ac
(c)
os yw'r person hwnnw wedi cwblhau o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf gwrs hyfforddi cychwynnol i GPIMCau a gymeradwywyd gan Gyngor Gofal Cymru.
(2)
Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caiff AGCLl roi cymeradwyaeth i berson i fod yn GPIMC, pan nad yw'r person hwnnw eisoes wedi ei gymeradwyo'n GPIMC o dan y Rheoliadau hyn ond pan yw wedi ei gymeradwyo i weithredu o ran Lloegr neu wedi ei gymeradwyo felly o fewn y pum mlynedd flaenorol—
(a)
os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol; a
(b)
os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol a fydd yn galluogi'r person hwnnw i weithredu yng Nghymru neu, yn niffyg hynny, bod y person yn cwblhau'r cyfryw gwrs hyfforddi ag y mae'r AGCLl sy'n cymeradwyo o'r farn bod ei angen i'w alluogi i wneud hynny.
(3)
Wrth benderfynu a yw'r person sy'n ceisio cymeradwyaeth fel GPIMC yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol fel sy'n ofynnol o dan baragraffau (1)(b) neu (2)(b) uchod, rhaid i'r AGCLl roi sylw i dystlythyrau'r person hwnnw.
Cyfnod cymeradwyaeth4.
Yn ddarostyngedig i reoliad 5, caiff AGCLl gymeradwyo person i fod yn GPIMC am gyfnod o hyd at bum mlynedd.
Cymeradwyaeth yn dod i ben5.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bydd cymeradwyaeth GPIMC yn dod i ben cyn gynted ag y bydd y cyfnod o gymeradwyaeth wedi dod i ben.
(2)
Bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben cyn i'r cyfnod cymeradwyaeth ddod i ben yn yr amgylchiadau canlynol—
(a)
os yw'r person hwnnw'n peidio â chyflawni swyddogaethau GPIMC ar ran AGCLl sy'n cymeradwyo;
(b)
os yw'r person hwnnw'n methu â bodloni unrhyw un neu rai o'r amodau a atodwyd i'w gymeradwyaeth yn unol â rheoliad 7;
(c)
os nad yw'r person hwnnw mwyach, ym marn yr AGCLl sy'n cymeradwyo, yn meddu ar y cymhwyseddau perthnasol priodol;
(ch)
os nad yw'r person hwnnw mwyach yn bodloni'r gofynion proffesiynol;
(d)
os bydd AGCLl arall yn cymeradwyo'r person hwnnw yn GPIMC;
(dd)
os yw'r person hwnnw'n gwneud cais ysgrifenedig am i'r gymeradwyaeth ddod i ben.
(3)
Ar ôl i gymeradwyaeth ddod i ben, rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo hysbysu unrhyw AGCLl arall y mae'n gwybod bod y person hwnnw wedi cytuno i weithredu fel GPIMC iddo o'r ffaith honno.
(4)
Os bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben yn yr amgylchiadau a ddarperir ym mharagraff (2)(d) uchod, rhaid i'r AGCLl newydd sy'n cymeradwyo hysbysu'r AGCLl blaenorol sy'n cymeradwyo o'r ffaith honno.
(5)
Pan fo'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n dod â chymeradwyaeth GPIMC i ben o dan baragraff (2), rhaid i'r AGCLl hwnnw ysgrifennu ar unwaith i hysbysu'r person hwnnw o'r dyddiad y daw'r gymeradwyaeth i ben ac o'r rheswm am ddod â'r gymeradwyaeth i ben.
Atal GPIMC Rhag Bod yn Gofrestredig neu Atodi Amodau i'w Gofrestru6.
(1)
Os caiff GPIMC, ar unrhyw adeg ar ôl ei gymeradwyo, ei atal rhag bod ar gofrestr neu restr yn unol â bodloni gofynion proffesiynol fel sy'n ofynnol o dan reoliad 3(1), rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo atal cymeradwyaeth y person hwnnw'n tra pery cyfnod ei atal rhag bod ar gofrestr neu restr.
(2)
Os atodir amodau i enw GPIMC ar gofrestr neu restr, yn ôl y digwydd, caiff yr AGCLl atodi i'w gymeradwyaeth y cyfryw amodau y mae o'r farn bod eu hangen, neu caiff atal y gymeradwyaeth.
(3)
Pan fo'r cyfnod atal y gymeradwyaeth wedi dod i ben, bydd y gymeradwyaeth yn parhau'n weithredol am unrhyw gyfnod cymeradwyaeth nad yw wedi dod i ben, onid yw'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n dod ag ef i ben yn gynharach yn unol â rheoliad 5.
Amodau Cymeradwyaeth7.
Bydd unrhyw gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—
(a)
rhaid i'r GPIMC gwblhau tra bydd yn parhau'n gymeradwy y cyfryw hyfforddiant ag y mae'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n ei wneud yn ofynnol ac yn ôl y cyfryw ysbeidiau ag y mae'r AGCLl yn penderfynu bod eu hangen ;
(b)
rhaid i'r GPIMC ddarparu, er boddhad rhesymol yr AGCLl sy'n cymeradwyo a heb fod yn llai aml nag unwaith y flwyddyn ar ôl dyddiad ei gymeradwyo, dystiolaeth ei fod yn parhau i fod â'r cymhwysedd priodol i gyflawni swyddogaethau GPIMC;
(c)
os yw'n cytuno i gyflawni dyletswyddau GPIMC ar ran AGCLl arall, rhaid i'r GPIMC hysbysu'n ysgrifenedig yr AGCLl sy'n cymeradwyo cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a rhaid ei hysbysu pan ddaw'r cyfryw gytundeb i ben;
(ch)
os yw'r GPIMC yn cael ei gymeradwyo gan AGCLl gwahanol, rhaid i'r GPIMC hysbysu'n ysgrifenedig yr AGCLl sy'n cymeradwyo cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
(d)
os nad yw mwyach yn bodloni unrhyw un neu rai o'r gofynion a geir yn rheoliad 3 neu yn reoliad 8 yn ôl y digwydd, rhaid i'r GPIMC hysbysu'r AGCLl sy'n cymeradwyo ar unwaith;
(dd)
os caiff ei atal o fod ar gofrestr neu restr, yn ôl y digwydd, neu os atodir amodau i'w enw ar gofrestr neu restr, rhaid i'r GPIMC hysbysu'r AGCLl sy'n cymeradwyo ar unwaith.
Ail gymeradwyaeth8.
(1)
Caiff AGCLl roi cymeradwyaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn i berson sydd wedi ei gymeradwyo o'r blaen yng Nghymru, a bod y cyfryw gymeradwyaeth wedi bod mewn grym o fewn y pum mlynedd flaenorol cyn dyddiad arfaethedig yr ail gymeradwyaeth yn yr amgylchiadau canlynol —
(a)
os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol; a
(b)
os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol.
(2)
Wrth benderfynu a yw'r person sy'n ceisio cymeradwyaeth i fod yn GPIMC yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol fel sy'n ofynnol o dan baragraff (1)(b) uchod, rhaid i'r AGCLl roi sylw i dystlythyrau'r person hwnnw.
Monitro a Chofnodion9.
(1)
Rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo gadw cofnod o bob person y mae'n ei gymeradwyo'n GPIMC, gan gynnwys—
(a)
ei enw;
(b)
ei broffesiwn;
(c)
y dyddiad y'i cymeradwywyd;
(ch)
y cyfnod y rhoddir cymeradwyaeth ar ei gyfer;
(d)
manylion ynghylch cwblhau unrhyw hyfforddiant y cyfeirir ato yn rheoliad 7(a);
(dd)
tystiolaeth a roddwyd iddo gan y GPIMC o dan reoliad 7(b);
(e)
enw pob AGCLl arall y mae'r cyfryw berson yn gweithredu fel G PIMC iddo;
(f)
unrhyw fanylion am gymeradwyaeth yn dod i ben neu am atal cymeradwyaeth, neu am amodau a atodwyd iddi.
(2)
Rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 uchod ac sy'n ymwneud â phersonau a gymeradwywyd ganddo'n GPIMCau am dair blynedd yn dilyn diwedd cymeradwyaeth y cyfryw bersonau.