Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 114 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20) fel y'i hamnewidiwyd gan adran 18 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12). Maent yn nodi nifer o faterion y mae'n rhaid i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol (“AGCLl”) gydymffurfio â hwy pan fyddant yn cymeradwyo person i fod yn weithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (“GPIMC”).
Mae rheoliad 3 yn nodi rhagofynion penodol cyn y gall person gael ei gymeradwyo'n GPIMC yng Nghymru gan AGCLl. Bod person yn perthyn i un o'r proffesiynau a geir yn Atodlen 1, a bod ganddo'r cymhwysedd priodol o ystyried y sgiliau a restrir yn Atodlen 2 a'i dystlythyrau yw'r rhagofynion hyn. Cyn y caniateir i berson gael ei gymeradwyo'n GPIMC am y tro cyntaf, rhaid i'r person hwnnw fod wedi gorffen cwrs cymeradwy o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Hefyd, os dim ond yn Lloegr y bydd y person hwnnw wedi gweithredu fel GPIMC, rhaid i'r AGCLl ei fodloni ei hun y gall y person hwnnw ddangos bod ganddo'r cymhwysedd priodol i'w alluogi i weithredu fel GPIMC yng Nghymru, neu yn niffyg hynny, bod y person yn ymgymryd â pha hyfforddiant bynnag sydd ei angen ym marn yr AGCLl i sicrhau bod y GPIMC yn ymgymhwyso i weithredu fel GPIMC.
Mae rheoliad 4 yn pennu mai pum mlynedd yw'r cyfnod hwyaf o gymeradwyaeth neu ail gymeradwyaeth.
Mae rheoliad 5 yn nodi o dan ba amgylchiadau y daw cymeradwyaeth i ben ac yn gosod gofynion o ran hysbysu AGCLlau eraill o'r ffaith honno.
Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer atal cymeradwyaeth os caiff person ei atal o gael ei gynnwys ar y gofrestr neu'r rhestr gymwysadwy o broffesiynau a restrir neu, os oes amodau wedi eu hatodi i'w enw ar y gofrestr neu'r rhestr, mae'n darparu ar gyfer atodi amodau i gymeradwyaeth.
Mae rheoliad 7 yn rhestru amodau y bydd cymeradwyaeth neu ail gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt yn gyffredinol.
Mae rheoliad 8 yn nodi'r rhagofynion cyn y gellir ailgymeradwyo person yn GPIMC.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i AGCLl gadw cofnodion yn cynnwys manylion penodedig GPIMC pan yr AGCLl yw'r AGCLl ar ei gyfer.
Mae Atodlen 1 yn rhestru'r proffesiynau y caniateir i berson gael ei gymeradwyo'n GPIMC mewn cysylltiad â hwy.
Mae Atodlen 2 yn nodi ffactorau sydd i'w cadw mewn cof pan fydd cymhwysedd person sydd i'w gymeradwyo'n GPIMC yn cael ei asesu.
Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan ragwelir y caiff effaith arwyddocaol ar y sector preifat nac ar y sector gwirfoddol.