ATODLEN 1Gofynion Proffesiynol

Rheoliadau 2 a 3

1.

Er mwyn bodloni'r gofynion proffesiynol, rhaid i berson fod yn un o'r canlynol—

(a)

yn weithiwr cymdeithasol a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru;

(b)

yn nyrs lefel gyntaf, a gofrestrwyd yn Is-ran 1 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 20013, gan gynnwys cofnod sy'n dynodi mai maes ymarfer y nyrs o ran nyrsio yw iechyd meddwl neu anableddau dysgu;

(c)

yn therapydd galwedigaethol yn Rhan 6 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 20014;

(ch)

yn seicolegydd siartredig a restrir yng Nghofrestr Seicolegwyr Siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain ac sy'n dal tystysgrif ymarfer berthnasol wedi'i dyroddi gan y Gymdeithas honno5.