Rheoliadau 2 a 3
ATODLEN 1Gofynion Proffesiynol
1. Er mwyn bodloni'r gofynion proffesiynol, rhaid i berson fod yn un o'r canlynol—
(a)yn weithiwr cymdeithasol a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru;
(b)yn nyrs lefel gyntaf, a gofrestrwyd yn Is-ran 1 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(1), gan gynnwys cofnod sy'n dynodi mai maes ymarfer y nyrs o ran nyrsio yw iechyd meddwl neu anableddau dysgu;
(c)yn therapydd galwedigaethol yn Rhan 6 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(2);
(ch)yn seicolegydd siartredig a restrir yng Nghofrestr Seicolegwyr Siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain ac sy'n dal tystysgrif ymarfer berthnasol wedi'i dyroddi gan y Gymdeithas honno(3).
Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain yn gorff o dan Siarter Frenhinol, wedi'i chofrestru'n elusen yng Nghymru a Lloegr Rhif 229642 a'i chyfeiriad yw St Andrews House, 48 Princess Road East, Leicester, LE1 7DR.