- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
24.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw glaf sydd am y tro yn destun gwarcheidiaeth o dan y Ddeddf (“claf gwarcheidiaeth”).
(2) Caniateir i glaf gwarcheidiaeth gael ei drosglwyddo i warcheidiaeth awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol arall neu berson arall os yw—
(a)awdurdod ar gyfer trosglwyddo wedi'i roi gan y gwarcheidwad ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 3;
(b)y trosglwyddiad wedi'i gytuno gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol, a fydd yr awdurdod cyfrifol os daw'r trosglwyddiad arfaethedig yn weithredol;
(c)yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol hwnnw wedi pennu ar ba ddyddiad y bydd y trosglwyddo'n digwydd; ac
(ch)pan fydd y person a enwir yn warcheidwad arfaethedig yn yr awdurdod ar gyfer trosglwyddo yn berson preifat, cytundeb y person hwnnw wedi'i sicrhau a'i gofnodi ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 3.
(3) Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo, rhaid i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol sy'n gyfrifol gofnodi trosglwyddiad gwarcheidiaeth y claf ar y ffurf a osodir yn Rhan 3 o Ffurflen TC 3.
(4) Caniateir i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol roi awdurdod i drosglwyddo claf gwarcheidiaeth i ysbyty ar y ffurf a osodir yn Rhan 1 o Ffurflen TC 4 os yw—
(a)cais am dderbyniad i gael triniaeth wedi'i wneud gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy ar y ffurf a osodir yn Ffurflen HO 6 ac, at ddibenion y cais hwnnw, bydd adrannau 11(4) (ymgynghori â'r perthynas agosaf) a 13 (dyletswydd gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy) yn gymwys fel petai'r trosglwyddiad arfaethedig yn gais am dderbyniad i gael triniaeth;
(b)cais am dderbyniad i gael triniaeth wedi'i wneud gan y perthynas agosaf ar y ffurf a osodir yn Ffurflen HO 5;
(c)y cais wedi'i seilio ar argymhellion meddygol a roddwyd gan ddau ymarferydd meddygol cofrestredig yn unol ag adran 12 a rheoliad 4(1)(ch);
(ch)yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol cyfrifol wedi'i fodloni bod trefniadau wedi'u gwneud i dderbyn y claf i'r ysbyty hwnnw.
(5) Wedi i'r claf hwnnw gael ei drosglwyddo i'r ysbyty, rhaid i gofnod o'i dderbyn gael ei wneud gan reolwyr yr ysbyty y mae'r claf wedi'i drosglwyddo iddo ar y ffurf a osodir yn Rhan 2 o Ffurflen TC 4 .
(6) Caniateir i swyddogaethau'r rheolwyr y cyfeiriwyd atynt yn y rheoliad hwn gael eu cyflawni gan swyddog a awdurdodwyd ganddynt yn y cyswllt hwnnw.
(7) Pan fo amodau paragraff (2) wedi'u bodloni, rhaid i waith trosglwyddo'r claf gael ei gyflawni o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr awdurdod fel y darperir ar ei gyfer o dan is-baragraff (a) o baragraff (2), ac yn niffyg hynny bydd y claf yn aros yng ngwarcheidiaeth y gwarcheidwad cychwynnol.
(8) Pan fo amodau paragraff (4) wedi'u bodloni, rhaid i waith trosglwyddo'r claf gael ei gyflawni o fewn 14 o ddiwrnodau i'r dyddiad y cafodd y claf ei archwilio ddiwethaf, ac yn niffyg hynny bydd y claf yn aros yn destun gwarcheidiaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: