xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gwnaed
20 Medi 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Medi 2008
Yn dod i rym
1 Tachwedd 2008
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr “hereditament annomestig perthnasol” (“relevant non-domestic hereditament”) yw unrhyw hereditament annomestig a ffurfir gan unrhyw adeilad neu ran o unrhyw adeilad, ynghyd ag unrhyw dir a ddefnyddir fel arfer neu y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion yr adeilad neu'r rhan;
ystyr “hereditament diwydiannol cymwys” (“qualifying industrial hereditament”) yw unrhyw hereditament, heblaw hereditament manwerthol, mewn perthynas ag ef y mae pob adeilad yn yr hereditament yn—
un sydd wedi ei adeiladu neu ei addasu at ei ddefnyddio wrth gynnal masnach neu fusnes; a
un sydd wedi ei adeiladu neu ei addasu at ddefnydd un neu ragor o'r dibenion a ganlyn, neu un neu ragor o'r dibenion hynny ac un neu ragor o ddibenion cysylltiedig ag ef neu hwy—
gweithgynhyrchu, atgyweirio neu addasu nwyddau neu ddeunyddiau, neu roi nwyddau neu ddeunyddiau drwy unrhyw broses;
storio (gan gynnwys storio neu drafod nwyddau wrth eu dosbarthu);
gweithio neu brosesu mwynau; a
cynhyrchu trydan; ac
ystyr “hereditament manwerthol” (“retail hereditament”) yw unrhyw hereditament lle y mae unrhyw adeilad neu ran o adeilad sydd yn yr hereditament wedi ei adeiladu neu ei addasu at ddiben darpariaeth fanwerthol—
nwyddau, neu
gwasanaethu, heblaw storio ar gyfer gwasanaethau dosbarthu, pan fo'r gwasanaethau i'w darparu ar yr hereditament neu oddi wrtho.
3. Mae'r dosbarth ar hereditamentau a ragnodir at ddibenion adran 45(1)(d) o'r Ddeddf yn cynnwys pob hereditament annomestig perthnasol heblaw y rhai a ddisgrifir yn rheoliad 4.
4. Yr hereditamentau annomestig perthnasol a ddisgrifir yn y rheoliad hwn yw unrhyw hereditament—
(a)y mae'r cyfan ohono, yn ddarostyngedig i reoliad 5, wedi bod heb ei feddiannu am gyfnod parhaus nad yw'n fwy na thri mis;
(b)sy'n hereditament diwydiannol cymwys ac y mae'r cyfan ohono, yn ddarostyngedig i reoliad 5, wedi bod heb ei feddiannu am gyfnod parhaus nad yw'n fwy na chwe mis;
(c)y mae ei berchennog wedi ei wahardd gan y gyfraith rhag ei feddiannu neu rhag caniatáu iddo gael ei feddiannu;
(ch)a gedwir yn wag oherwydd cam a gymerir gan y Goron neu ar ei rhan neu gan unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus neu ar eu rhan gyda golwg ar wahardd yr hereditament rhag cael ei feddiannu neu ar ei gaffael;
(d)sy'n destun hysbysiad cadw adeilad o fewn ystyr Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(3) neu a cynhwysir mewn rhestr a luniwyd o dan adran 1 o'r Ddeddf honno;
(dd)a gynhwysir yn yr Atodlen o henebion a luniwyd o dan adran 1 o Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979(4);
(e)y mae ei werth ardrethol yn llai na £2,200;
(f)y mae gan ei berchennog hawl i feddiannu yn unig yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd personol person ymadawedig;
(ff)pan fo, o ran ystâd y perchennog, orchymyn methdalu o fewn ystyr adran 381(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986(5);
(g)y mae ei berchennog â hawl i feddiannu yn rhinwedd ei swydd fel ymddiriedolwr o dan weithred gymodi y mae Deddf Gweithredoedd Cymodi 1914(6) yn gymwys iddi;
(ng)y mae ei berchennog yn gwmni sy'n ddarostyngedig i orchymyn dirwyn i ben a wneir o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 neu a ddygir i ben yn wirfoddol o dan y Ddeddf honno;
(h)y mae ei berchennog yn gwmni yn nwylo gweinyddwyr o fewn yr ystyr ym mharagraff 1 o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 neu sy'n ddarostyngedig i orchymyn gweinyddu a wnaed o dan y darpariaethau gweinyddu blaenorol o fewn ystyr erthygl 3 o Orchymyn Deddf Menter 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2003 (7);
(i)y mae ei berchennog â hawl i feddiannu yn rhinwedd ei swydd fel diddymwr yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 112 neu adran 145 o Ddeddf Ansolfedd 1986.
5. Mae hereditament sydd heb ei feddiannu ac a gaiff a feddiannu ar unrhyw ddiwrnod i'w drin fel petai heb ei feddiannu'n barhaus at ddibenion rheoliad 4(a) a (b) os bydd heb ei feddiannu eto pan ddaw cyfnod o lai na chwe wythnos, gan ddechrau ar y diwrnod hwnnw, i ben.
6. At ddibenion rheoliad 4(a) a (b), mae hereditament sydd heb ei feddiannu o'r blaen i'w drin fel petai heb ei feddiannu—
(a)ar y diwrnod a benderfynir o dan baragraff 8 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Ardreth Gyffredinol 1967(8), neu ar y diwrnod a benderfynir o dan Atodlen 4A i'r Ddeddf(9), p'un bynnag o'r diwrnodau hynny a ddaw gyntaf; neu
(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys, ar y diwrnod y dangosir yr hereditament gyntaf mewn rhestr ardrethu lleol.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 1989(10) wedi eu dirymu o ran eu cymhwyso i Gymru.
(2) Mae'r Rheoliadau hynny yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion cyfrifo atebolrwydd dros ardrethi o ran unrhyw ddiwrnod cyn 1 Tachwedd 2008.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Medi 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (“Deddf 1988”) yn darparu bod perchnogion eiddo annomestig gwag yn atebol i dalu ardrethi annomestig os yw amodau penodol yn gymwys.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 1989 (“Rheoliadau 1989”) gyda diwygiadau. Yn ogystal â diwygiadau drafftio, yr unig newid o sylwedd yw'r eithriad newydd a gynhwysir ar gyfer cwmnïau yn nwylo gweinyddwyr (rheoliad 4(h)).
Un o'r amodau a osodir gan adran 45 o Ddeddf 1988 yw bod rhaid i'r eiddo ddod o fewn dosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r dosbarth hwnnw fel un a ffurfir gan bob adeilad neu ran o adeilad ac eithrio'r sawl a restrir yn rheoliad 4. Mae'r eithriadau hynny yn cynnwys pob eiddo a fu'n wag yn barhaus am dri mis neu lai.
Mae rheoliad 5 a 6 yn cynnwys darpariaethau tebyg i'r darpariaethau yn Rheoliadau 1989 sy'n ymwneud ag achosion pan ystyrir y bydd eiddo wedi bod yn wag yn barhaus am dri neu chwe mis neu lai a chymhwysiad y Rheoliadau at eiddo sydd heb erioed ei feddiannu.
Dirymwyd Rheoliadau 1989 o ran eu cymhwyso i Loegr gan O.S. 2008/386 ac mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 1989 o ran eu cymhwyso i Gymru.
Mae Asesiad o Effaith Reoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm.
1988 p.41; diwygiwyd adran 45(1)(d), a mewnosodwyd adrannau (9) a (10), gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 5, paragraffau 23(2) a (3) a 79(3).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1990 p.9. Diffinnir “Building preservation notice” (hysbysiad cadw adeilad) yn adran 91(1).
O.S. 2003/2093 (C.85),y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.
Mewnosodwyd Atodlen 4A gan baragraff 36 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).
O.S. 1989/2261 a ddirymwyd o ran ei gymhwyso i Loegr gan O.S. 2008/386.