Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (“Deddf 1988”) yn darparu bod perchnogion eiddo annomestig gwag yn atebol i dalu ardrethi annomestig os yw amodau penodol yn gymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 1989 (“Rheoliadau 1989”) gyda diwygiadau. Yn ogystal â diwygiadau drafftio, yr unig newid o sylwedd yw'r eithriad newydd a gynhwysir ar gyfer cwmnïau yn nwylo gweinyddwyr (rheoliad 4(h)).

Un o'r amodau a osodir gan adran 45 o Ddeddf 1988 yw bod rhaid i'r eiddo ddod o fewn dosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r dosbarth hwnnw fel un a ffurfir gan bob adeilad neu ran o adeilad ac eithrio'r sawl a restrir yn rheoliad 4. Mae'r eithriadau hynny yn cynnwys pob eiddo a fu'n wag yn barhaus am dri mis neu lai.

Mae rheoliad 5 a 6 yn cynnwys darpariaethau tebyg i'r darpariaethau yn Rheoliadau 1989 sy'n ymwneud ag achosion pan ystyrir y bydd eiddo wedi bod yn wag yn barhaus am dri neu chwe mis neu lai a chymhwysiad y Rheoliadau at eiddo sydd heb erioed ei feddiannu.

Dirymwyd Rheoliadau 1989 o ran eu cymhwyso i Loegr gan O.S. 2008/386 ac mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 1989 o ran eu cymhwyso i Gymru.

Mae Asesiad o Effaith Reoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm.