2008 Rhif 2568 (Cy.226)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) 20072.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau2
1
Diwygir rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) fel a ganlyn.
2
Yn y diffiniad o “teulu” (“family”), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
aa
yn rheoliad 5(1)(ch) mewn perthynas â pherson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi y mae iddo'r ystyr sydd iddo yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau Lwfans Cyflogi a Chefnogi 20083,
3
Yn y testun Cymraeg, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
ystyr “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans seiliedig ar incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (lwfans cyflogi a chefnogi)4;
Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau3
1
Diwygir rheoliad 5 (1) o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) fel a ganlyn.
2
Ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—
bb
sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm;
3
Yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) ar ôl “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” mewnosoder “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm”.