- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
1 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Hydref 2008
Yn dod i rym
27 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl (Cymru) 2007(2).
2.—(1) Diwygir rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “teulu” (“family”), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
“(aa)yn rheoliad 5(1)(ch) mewn perthynas â pherson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi y mae iddo'r ystyr sydd iddo yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau Lwfans Cyflogi a Chefnogi 2008(3),”.
(3) Yn y testun Cymraeg, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans seiliedig ar incwm o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (lwfans cyflogi a chefnogi)(4);”.
3.—(1) Diwygir rheoliad 5 (1) o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—
“(bb)sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm;”.
(3) Yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) ar ôl “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” mewnosoder “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Hydref 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau'n darparu fod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau gwladwriaeth penodol neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu ffioedd penodol, ac yn cael ad-daliad am ffioedd penodol, sef ffioedd a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac yn cael taliad am dreuliau teithio sy'n cael eu hysgwyddo wrth sicrhau rhai o wasanaethau'r GIG (“treuliau teithio GIG”).
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a thalu treuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “teulu” (“family”) yn Rheoliad 2 i'r prif Reoliadau ac yn diwygio rheoliad 5 (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael ad-daliad llawn) i ddarparu y bydd gan berson sy'n derbyn lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm hawl i gael ad-daliad llawn o daliad GIG a thaliad llawn o dreuliau teithio GIG heb fod angen iddo hawlio taliad neu ad-daliad o'r fath.
Maent hefyd yn diwygio testun Cymraeg y prif Reoliadau i fewnosod yn nhestun Cymraeg rheoliad 2 (dehongli) y diffiniad o “lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm” ac i gyfeirio at y lwfans hwn yn nhestun Cymraeg is-baragraff (d) o reoliad 5(1) (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn).
O.S. 2007/1104 (Cy.116) (“y Rheoliadau”); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1480 (Cy.153) a 2008/1879 a fewnosododd y diffiniad o “income-related employment and support allowance” yn nhestun Saesneg rheoliad 2 ac a ychwanegodd y geiriau “income-related employment and support allowance” i destun Saesneg rheoliad 5(1)(d) o'r Rheoliadau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: