Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2689 (Cy.238)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

8 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Hydref 2008

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 79H(1) a (2) a (104)(4) o Ddeddf Plant 1989(1).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004

2.—(1Diwygir Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004(2) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli) —

(a)hepgorer y diffiniad o “gorchymyn costau” ac “y Tribiwnlys”;

(b)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—

  • “y mae i'r ymadrodd “Tribiwnlys Haen Gyntaf” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007;.(3)

(3Yn rheoliad 8 (hawliau i apelio) —

(a)ym mharagraffau (1) a (2) yn lle “Tribiwnlys”, ym mhob man rhodder “Tribiwnlys Haen Gyntaf” a

(b)ym mharagraff (3) yn lle “Tribiwnlys:” ac yn is-baragraffau (a) a (b) rhodder “bydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn diddymu'r apêl.”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

8 Hydref 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”).

Mae Rheoliadau 2004 yn gosod dan ba amgylchiadau y dichon person sydd wedi cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd gael atal ei gofrestriad ac mae'n caniatáu hawl i apelio yn erbyn ataliad.

O dan Reoliadau 2004 gwnaed apelau i'r Tribiwnlys sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (“y Tribiwnlys”). Mae'r darpariaethau apelio wedi'i gosod yn erthygl 8 o Reoliadau 2004.

Yn unol â Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 trosglwyddwyd swyddogaethau presennol y Tribiwnlys i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf, a lywodraethir gan Reolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys newydd a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 2007.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2004 gan gymryd ystyriaeth o'r newidiadau hyn. Maent yn darparu y bydd unrhyw gyfeiriad at y Tribiwnlys yn Rheoliadau 2004 yn cael ei ddisodli gan gyfeiriad at y Tribiwnlys Haen Gyntaf ac maent yn mewnosod diffiniad o'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn rheoliad 2 o Reoliadau 2004.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheol 8(3) o Reoliadau 2004 oedd yn darparu y dichon y Tribiwnlys ddiddymu apêl a gwneud gorchymyn costau fel y'i diffinir yn Rheoliadau Amddiffyn Plant ac Oedolion Hawdd eu Niweidio a Thribiwnlys Safonau Gofal 2002.

Cafodd y ddarpariaeth hon ei chymryd ymaith oherwydd darperir ar gyfer pwer y Tribiwnlys Haen Gyntaf i ddyfarnu costau gan Ddeddf 2007 ei hun ac fe'i rheoleiddir ganddi a chan Reoliadau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys a fydd yn cael eu gwneud o dan adran 22 o Ddeddf 2007.

(1)

1989 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 79(H)(1) a (2) a104(4) o Ddeddf Plant 1989 drwy i baragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod yn weithredol (Cy.285).