1
Daw'r priffyrdd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu hadeiladu ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffyrdd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.
2
Mae llinellau canol y cefnffyrdd newydd yn cael eu dangos gan linellau duon trymion ar y plan a adneuwyd.
3
Bydd y darn o gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, ac a ddangosir â llinellau lletraws â stribedi bras ar y map a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffordd ddiddosbarth o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod y cefnffyrdd newydd wedi'u hagor ar gyfer traffig trwodd.
4
Yn y Gorchymyn hwn:
mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
- i
ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan sy'n dwyn y Rhif HA 10/2 NAFW 17 ac sydd wedi'i farcio Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008 ac sydd wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru ac a adneuwyd yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Llywodraeth Cynulliad Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd;
- ii
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470);
- iii
“y cefnffyrdd newydd” (“the new trunk roads”) yw'r priffyrdd a grybwyllir yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn ac ystyr 'cefnffordd newydd' yw un o'r cefnffyrdd hynny.
- i
5
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Hydref 2008 a'i enw yw “Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008”
Llofnodwyd o dan awdurdod y Gweinidog dros Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.