ATODLEN 1LLWYBRU'R CEFNFFYRDD NEWYDD

Dyma lwybrau'r cefnffyrdd newydd, sy'n llwybrau i'r gogledd o Lanrwst rhwng Penloyn a Than Lan ym Mwrdeistref Sirol Conwy:—

1

llwybr oddeutu 0.14 cilometr o hyd, yn cychwyn wrth bwynt 390 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren A ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 250 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren B ar y plan a adneuwyd).

2

llwybr oddeutu 0.79 cilometr o hyd, yn cychwyn wrth bwynt 110 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren C ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 680 o fetrau i'r gogledd o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren D ar y plan a adneuwyd).

ATODLEN 2Y DARN O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darn o gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darn hwnnw o gefnffordd yr A470 ym Mwrdeistref Sirol Conwy sydd oddeutu 0.79 cilometr o hyd ac sydd rhwng pwynt 110 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythrennau CC ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 680 o fetrau i'r gogledd o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythrennau DD ar y plan a adneuwyd).