2008 Rhif 2929 (Cy.258)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi1.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2008.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu2

Dirymir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 20082.

Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19923

1

Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19923 fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009.

2

Yn lle atodlen 4, rhoddir yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Brian GibbonsY Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Rheoliad 3

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority area

Prescribed figure

Blaenau Gwent

54,000

Bridgend

104,800

Caerphilly

132,600

Carmarthenshire

141,700

Cardiff

253,600

Ceredigion

64,000

Conwy

89,200

Denbighshire

76,800

Flintshire

117,800

Gwynedd

94,000

Isle of Anglesey

54,700

Merthyr Tydfil

43,100

Monmouthshire

69,100

Neath Port Talbot

108,400

Newport

107,400

Pembrokeshire

92,200

Powys

104,600

Rhondda Cynon Taf

182,400

Swansea

182,200

Torfaen

70,800

Vale of Glamorgan (The)

95,900

Wrexham

103,700

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”). Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2008.

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).