Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3100 (Cy.274)

AER GLÅN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008

Gwnaed

3 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993(1), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).