Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008

35.  Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo a golosg adweithiol (sef rhyw 21 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu hallwthio;

(c)sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.