Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3143 (Cy.278)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

DŴR, CYMRU

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 3

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (2) mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag y llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan yr adran honno, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer diben y cyfeirir ato yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru ddehongli cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

(1)

Gweler O.S. 2001/2555 am y dynodiad a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 28(1) o Atodlen 11 iddi, mae'r dynodiad hwnnw wedi'i freinio bellach yng Ngweinidogion Cymru.