- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008.
2.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas ag unrhyw ddaliad mewn parth perygl nitradau sydd wedi'i ddynodi felly yn y Rheoliadau hyn.
(2) Yn achos daliad sy'n rhannol o fewn parth perygl nitradau, dim ond yn y rhan o'r daliad sydd y tu mewn i'r parth y mae'r Rheoliadau'n gymwys, ac mae cyfeiriad at ddaliad yn gyfeiriad at y rhan honno.
3.—(1) Daw'r Rheoliadau hyn (ac eithrio rheoliad 22(1) a Rhan 7) i rym ar 1 Ionawr 2009.
(2) Daw rheoliad 22(1) a Rhan 7 i rym ar 1 Ionawr 2012.
4. Mewn daliad neu ran o ddaliad nad yw'n rhan o barth perygl nitradau o dan Reoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996(1) neu Reoliadau Diogelu Dŵr rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002(2)—
(a)ni fydd Rhannau 3 a 4, rheoliadau 19 i 21, 22(2), 23, Rhan 6 a Rhan 8 yn gymwys tan 1 Ionawr 2010, a
(b)ni fydd y gofynion yn rheoliadau 35(1) a 36(1) i gofnodi maint y daliad a'r lle storio yn gymwys tan 30 Ebrill 2010.
5. Mae dŵr wedi'i lygru—
(a)os yw'n ddŵr croyw ac yn cynnwys crynodiad nitradau sy'n uwch na 50 mg/l, neu y gallai ei gynnwys pe na bai'r Rheoliadau hyn yn gymwys yno, neu
(b)os yw'n ewtroffig neu y gallai ddod yn ewtroffig yn y dyfodol agos pe na bai'r Rheoliadau hyn yn gymwys yno.
6.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “ewtroffig” (“eutrophic”) yw dwr sydd wedi'i gyfoethogi gan gyfansoddion nitrogen, sy'n peri i algâu a ffurfiau uwch ar fywyd planhigol dyfu'n gyflymach, gan darfu mewn modd annymunol ar gydbwysedd yr organeddau sy'n bresennol yn y dŵr ac ar ansawdd y dŵr o dan sylw;
ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae'n cynnwys tail organig;
ystyr “gwrtaith a weithgynhyrchwyd” (“manufactured fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi'i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw'r person a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan Reoliad 8(1);
mae “pridd tenau” (“shallow soil”) yn bridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;
ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy'n gorwedd ar dywodfaen, neu unrhyw bridd arall—
pan fo, yn yr haen hyd at ddyfnder o 40 cm—
mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm,
llai na 18 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm, a
llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig, a
pan fo, yn yr haen o ddyfnder 40 i 80 cm—
mwy na 70 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm;
llai na 15 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm;
llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig;
ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dwr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda'r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi'u gwahanu i'w ffracsiynau hylifol a'u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw'r slyri);
mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i'r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw'n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid.
ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen sy'n deillio o anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol ac mae'n cynnwys tail da byw;
ystyr “tir y mae'r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk” yw tir y mae ei lethr cyfartalog yn llai na 3° (3 gradd), a hwnnw'n dir nad oes ganddo draeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio), ac sydd o leiaf 50 metr o gwrs dwr neu ddyfrffos sy'n arwain at gwrs dŵr.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: