12.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodwyd ar y daliad, p'un ai'n uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi'i luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
(2) Rhaid cyfrifo faint o nitrogen a gynhyrchwyd gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.
(3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod faint o nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw lawr caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir onid yw'r coetir hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pori.
13. Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad, yn fwy na 250 kg.