- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gwnaed
9 Rhagfyr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Rhagfyr 2008
Yn dod i rym
1 Ionawr 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 1973(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2), a pharagraph 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3), a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2009.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008(4) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 3, paragraph 1(dd), mewnosoder—
“(e)cynnal profion o dan bwynt 4(b)(i) o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad Ewropeaidd;
(f)cynnal profion o dan bwynt 4(b)(ii) o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad Ewropeaidd;
(ff)cynnal profion o dan bwynt 4(b)(iii) o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad Ewropeaidd(5).”
(3) Ar ôl rheoliad 3, paragraff 2(b), mewnosoder—
“(c)y person sydd â gofal daliad pan wneir profion mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraffau (1)(e), (1)(f) ac (1)(ff).”
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru godi ffioedd am gynnal profion y caiff ffermwyr ofyn amdanynt o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1237/2007 (OJ Rhif L280, 24.10.2007, t.5). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar effeithiau'r Rheoliadau hyn ac fe'i hatodwyd i'r Memorandwm Esboniadol. Gellir cael copïau ohono oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Gosododd Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1237/2007 (OJ No L280, 24.10.2007, t.5) Ran D newydd yn Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: