2008 Rhif 3154 (Cy.282)

ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygaeth ac iechyd planhigion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, a chan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 19733.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghori a fynnir gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd 4.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn hwylus dehongli cyfeiriadau at offerynnau Cymunedol penodol yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 19735, mae'r Trysorlys yn cydsynio i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.