RHAN 3Gweinyddu a gorfodi
Pwerau mynediad13
1
Mae hawl mynediad gan arolygwyr i unrhyw fangre at y diben o sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn.
2
Rhaid iddynt, os gofynnir iddynt, ddangos rhyw ddogfen sydd wedi ei dilysu yn briodol ac yn dangos eu hawdurdod cyn arfer eu hawl o dan baragraff (1).
3
Cânt arfer eu hawl o dan baragraff (1) ar bob adeg rhesymol o'r dydd.
4
Cânt fynd gyda hwy—
a
pa bynnag bersonau eraill y tybiant sy'n angenrheidiol; a
b
unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at y diben o orfodi ymrwymiad Cymunedol.
5
Os yw arolygwyr yn mynd i mewn i fangre na feddiennir gan neb ar y pryd, rhaid iddynt adael y fangre honno (mor bell ag y bo'n ymarfer yn rhesymol) wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag ydoedd cyn dyfodiad yr arolygwyr.
6
Os yw ynad heddwch, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd o dan lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn, a naill ai—
a
gwrthodwyd mynediad, neu disgwylir y bydd mynediad yn cael ei wrthod, ac (yn y naill achos neu'r llall) rhoddwyd hysbysiad i'r meddiannydd y gwneir cais am warant;
b
byddai gofyn am gael mynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn difetha pwrpas mynd i mewn; neu
c
bod yr achos yn achos brys; neu
ch
bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad, drwy warant lofnodedig, awdurdodi arolygwyr i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.
7
Mae gwarant o dan yr adran hon yn ddilys am un mis.
8
Yn y rheoliad hwn mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—
a
mangre ddomestig os defnyddir hi at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn; a
b
unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu adeiledd (symudol neu fel arall).