RHAN 3Gweinyddu a gorfodi
Cymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu a chofrestru6
1
Rhaid i Weinidogion Cymru roi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os bodlonir Gweinidogion Cymru y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i hyn fod mewn ysgrifen a rhaid iddo nodi—
a
cyfeiriad y fangre;
b
enw'r meddiannydd; ac
c
y diben y rhoddir ef ar ei gyfer.
3
Caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau sy'n angenrheidiol er mwyn—
a
sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; neu
b
amddiffyn iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
4
Os gwrthodant roi cymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad, neu os rhoddant un yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
roi rhesymau mewn ysgrifen; a
b
esbonio bod hawl gan yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
5
Yna bydd y weithdrefn apelio yn rheoliad 10 yn gymwys.