RHAN 3Gweinyddu a gorfodi
Dyletswydd y meddiannydd7
Bydd meddiannydd unrhyw fangre a gymeradwyir, a awdurdodir, a drwyddedir neu a gofrestrir o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni tramgwydd oni fydd yn sicrhau bod—
a
y fangre yn cael ei chynnal a'i gweithredu yn unol ag—
i
unrhyw amod o'r gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded neu gofrestriad; a
ii
gofynion Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a
b
bod unrhyw berson a gyflogir ganddo, ac unrhyw berson a awdurdodir i fynd mewn i'r safle, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.