ATODLEN 4Rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr

Hysbysu ynghylch TSE1

1

At ddibenion Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw ddafad neu afr yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, sydd dan amheuaeth o fod wedi ei heffeithio gan TSE hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw'r anifail yn yr un fangre hyd nes archwilir yr anifail gan arolygydd milfeddygol.

2

Rhaid i unrhyw filfeddyg sy'n archwilio unrhyw anifail o'r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

3

Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio Gweinidogion Cymru) sy'n archwilio corff unrhyw ddafad neu afr neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac yn amau'n rhesymol bod TSE yn bresennol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono yn ei feddiant hyd nes awdurdodir eu gwaredu gan arolygydd milfeddygol.

4

Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.