Rheoliad 5

ATODLEN 5Rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid nad ydynt o deulu'r fuwch, y ddafad na'r afr

Hysbysu

1.—(1At ddibenion Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth nad yw o deulu'r fuwch y ddafad na'r afr ac sydd dan amheuaeth o fod wedi ei effeithio gan TSE hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw'r anifail yn yr un fangre hyd nes archwilir yr anifail gan arolygydd milfeddygol.

(2Rhaid i unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n archwilio neu arolygu unrhyw anifail o'r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru ar yr archwiliad neu'r arolygiad hwnnw, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

(3Rhaid i unrhyw berson (ac eithrio Gweinidogion Cymru) sy'n archwilio corff unrhyw anifail nad yw o deulu'r fuwch y ddafad na'r afr, neu unrhyw ran o'r corff, mewn labordy ac yn amau'n rhesymol bod TSE yn bresennol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono yn ei feddiant hyd nes awdurdodir ei waredu gan arolygydd milfeddygol.

(4Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cyfyngu ar anifail sy'n destun hysbysiad

2.—(1Os yw anifail yn destun hysbysiad o dan baragraff 1, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad yn gwahardd ei symud o'i ddaliad hyd nes ceir penderfyniad a yw dan amheuaeth o'i effeithio gan TSE ai peidio.

(2Ni chaniateir symud anifeiliaid dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 16.

Cigydda anifail sydd dan amheuaeth

3.—(1At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os yw arolygydd milfeddygol yn amau bod anifail nad yw o deulu'r ddafad, y fuwch na'r afr wedi ei effeithio gan TSE, rhaid iddo naill ai—

(a)ei ladd ar y daliad ar unwaith;

(b)cyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes bo wedi ei ladd; neu

(c)cyflwyno hysbysiad yn cyfarwyddo'r perchennog i draddodi yr anifail i fangre arall i'w ladd, ac yn gwahardd symud yr anifail ac eithrio yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.

(2Os lleddir yr anifail ar y daliad, mae symud y corff oddi ar y daliad hwnnw neu ei waredu yn dramgwydd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.

Iawndal

4.—(1Pan leddir anifail o dan baragraff 3, caiff Gweinidogion Cymru dalu iawndal.

(2Yr iawndal yw gwerth yr anifail ar y farchnad ar yr adeg y lleddir yr anifail, a benderfynir yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 11, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sy'n codi o enwebu a chyflogi prisiwr.

Cadw cynhyrchion a gwaredu

5.—(1Mewn perthynas ag unrhyw garw a ddewisir ar gyfer samplu yn rhan o'r arolwg sy'n ofynnol o dan Erthygl 3(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/182/EC ynglyn ag arolwg ar gyfer clefyd nychu cronig mewn anifeiliaid o deulu'r carw(1), rhaid i feddiannydd lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy—

(a)at ddibenion pwynt 1 o Atodiad III i Benderfyniad y Comisiwn 2007/182/EC, gadw yn ei feddiant y carcas a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) hyd nes ceir canlyniad y prawf; a

(b)os ceir canlyniad positif, gwaredu'r carcas a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ar unwaith yn unol â phwynt 4 o'r Atodiad hwnnw.

(2Mewn perthynas â'r paragraff hwn, caniateir i bwerau arolygydd gael eu harfer hefyd gan berson a benodir fel y cyfryw mewn perthynas â marchnad ledr neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

(3Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â pharagraff (1) yn euog o dramgwydd.

(1)

OJ Rhif. L 84, 24.3.2007, t.37.