xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
38.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.
(2) Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(4) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r cwrs hwnnw'n gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n para am lai nag un flwyddyn academaidd.
(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r cwrs hwnnw—
(a)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009; a;
(b)sy'n arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
(6) Mae myfyriwr cymwys o dan yr hen system sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (ch)(i) o'r diffiniad o “myfyriwr cymwys o dan yr hen system” yn rheoliad 2 yn gymwys i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â mynychu cwrs dynodedig os yw'n bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw wedi'i wahardd gan baragraff (3).
(7) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael benthyciad at gostau byw.
(8) Mae paragraff (7) yn gymwys i'r canlynol—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(b)myfyriwr anabl—
(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.
(9) Er mwyn cael benthyciad at gostau byw, rhaid i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ymrwymo mewn contract â Gweinidogion Cymru o dan delerau sydd i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru.
(10) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw'n garcharor.
39.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys), yw—
(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,673;
(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,648;
(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,658;
(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,658;
(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,745.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw—
(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,324;
(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,053;
(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,920;
(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,920;
(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,396.
40.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn, (ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, y mae ei gyfraniad yn uwch na dim).
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys) yn hafal i (X−Y) ac—
X—
i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,673;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,648;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £5,658;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £5,658;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,745;
Y yw swm y grant cynhaliaeth.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yn hafal i (X−Y) ac—
X—
i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,324;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,053;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,920;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,920;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,396;
Y yw swm y grant cynhaliaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw'r canlynol—
(a)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 36 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw'n fwy na £1,288, swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy;
(b)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 36 i gael swm o grant cynhaliaeth sy'n fwy na £1,288, £1,288; ac
(c)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.
41.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam, yw—
(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,673;
(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,648;
(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,658;
(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,658;
(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,745.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam, yw—
(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,324;
(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,053;
(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,920;
(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,920;
(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,396.
42.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—
(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a)—
(i)£1,744 i fyfyriwr yng nghategori 1;
(ii)£3,268 i fyfyriwr yng nghategori 2;
(iii)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(iv)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 4;
(v)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 5;
(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(c) neu 23(5)—
(i)£1,744 i fyfyriwr yng nghategori 1;
(ii)£3,268 i fyfyriwr yng nghategori 2;
(iii)£2,780 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(iv)£2,780 i fyfyriwr yng nghategori 4;
(v)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 5;
(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X−Y) ac—
X—
i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £2,755;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £4,986;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,244;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,244;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £3,559;
Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).
(ch)y swm penodedig yw—
(i)£644, os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £644;
(ii)£1,288, os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,288;
(iii)dim, pan na fo'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—
(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a)—
(i)£1,324 i fyfyriwr yng nghategori 1;
(ii)£2,498 i fyfyriwr yng nghategori 2;
(iii)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(iv)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 4;
(v)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 5;
(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(b) neu 23(5)—
(i)£1,324 i fyfyriwr yng nghategori 1;
(ii)£2,498 i fyfyriwr yng nghategori 2;
(iii)£2,031 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(iv)£2,031 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(v)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal i (X−Y) ac—
X—
i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £2,493;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £4,540;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £3,690;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £3, 690;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £3,297;
Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).
(ch)y swm penodedig yw—
(i)£644 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £644;
(ii)£1,288 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,288;
(iii)dim, pan nad fo'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
43.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw myfyriwr cymwys yn preswylio yng nghartref ei rieni a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni nad yw'n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni'r myfyriwr gynnal y myfyriwr oherwydd oedran, analluedd neu fel arall ac y byddai'n briodol i swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr mewn categori ac eithrio categori 1 fod yn gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw, rhaid trin y myfyriwr fel pe na bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
44.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 46, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd.
(2) Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—
(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â'r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;
(b)mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â'r chwarter y mae'r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.
45.—(1) Os yw myfyriwr cymwys yn syrthio i fwy nag un o'r categorïau yn rheoliad 49 yn ystod y flwyddyn academaidd—
(a)uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;
(b)uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac
(c)y categori sy'n gymwys i chwarter yw—
(i)y categori y mae'r myfyriwr yn syrthio iddo am y cyfnod hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu
(ii)os yw'r myfyriwr yn syrthio i fwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â'r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.
46.—(1) Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â'r chwarteri hynny o'r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.
(2) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(dd)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.
(4) Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy'n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn.
(5) Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.
47.—(1) Os yw'n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy'n fwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 39 i 41 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn:
(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, codiad o £55;
(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, codiad o £106;
(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, codiad o £115;
(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, codiad o £115;
(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, codiad o £83.
(2) Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw'n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 39 i 41 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
(3) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng
48.—(1) Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn o'r benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliad 54.
(2) Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng o dan reoliad 54.
49.—(1) Yn y Rhan hon—
(a)mae myfyriwr yng nghategori 1 os yw'r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs dynodedig neu os dechreuodd y cwrs cyfredol ar 1 Medi 2009 a'i fod yn aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai'r urdd honno;
(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol ar un neu fwy o'r canlynol—
(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;
(ii)cwrs mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu
(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r profiad gwaith hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;
(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw'r myfyriwr yn mynychu sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs;
(ch)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 a'i fod yn mynychu'r Athrofa;
(d)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4.
(dd)“myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;
(e)“myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;
(f)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;
(ff)“myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—
(i)nad yw'n gymwys i gael grant at gostau byw neu gostau eraill mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 23(3)(a), (b), neu (c) neu reoliad 23(5); neu
(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;
(g)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw'r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.