36.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.
(3) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,453;
(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,906;
(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,453; ac
(ch)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,906.
(4) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,453;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,453 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, mae'n cael £644.
(5) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,906;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,906 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, mae'n cael £1,288.
(6) Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,453;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £1,453 ac A yn £1 am bob £11.72 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £644 ac A yn £1 am bob £18.54 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.
(7) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,906;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,906 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £1,288 ac A yn £1 am bob £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.