- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
80.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 79—
(a)os yw'n gwrs a grybwyllir yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon;
(b)os yw'n para am o leiaf un flwyddyn academaidd;
(c)os yw fel arfer yn bosibl gorffen y cwrs mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae fel arfer ei angen i gwblhau cwrs amser-llawn cyfatebol;
(ch)os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac
(d)nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 5;
(dd)nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 64.
(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3) Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.
(4) At ddibenion paragraff (1)—
(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;
(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac
(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1).
(5) At ddibenion paragraff (1)(c)—
(a)ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs rhan-amser dan sylw;
(b)ystyr “cyfnod sy'n ofynnol fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—
(i)os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;
(ii)os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai myfyriwr amser-llawn safonol yn ei gymryd i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(c)“myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr y cymerir—
(i)ei fod wedi dechrau cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;
(ii)nad yw wedi'i esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; a
(iv)nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 79(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi gan baragraff (1).
1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: